Mae Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies wedi cyhoeddi bydd Cyswllt Ffermio yn cynnig rhaglen newydd gwerth £11m bydd ar gael i ddarparu cyngor i ffermwyr Cymru ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd. Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y rhaglen yw helpu i fusnesau fferm ddatblygu gwytnwch wrth baratoi am newidiadau’r SFS, a rhoi cyngor iddynt ynghylch sut i gynhyrchu mwy drwy edrych ar feysydd megis gwella iechyd pridd, iechyd a lles anifeiliaid, rheoli plâu ac afiechydon a meithrin sgiliau newydd.
Mewn datganiad a ryddhawyd wrth lansio’r prosiect ar Fferm Ystâd Penllyn dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
“Rwy’n falch o gyhoeddi £11 miliwn cychwynnol fel y gall Cyswllt Ffermio barhau i ddarparu ei wasanaethau pwysig i ffermwyr ledled Cymru am flwyddyn arall.
Mae’r gefnogaeth honno’n bwysicach nag erioed. Bydd Cyswllt Ffermio yn chwarae rôl allweddol wrth helpu ffermwyr i symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae’r cyllid hwn yn dangos ein hymrwymiad i’w cefnogi drwy’r trawsnewidiad hwnnw.
Byddwn yn annog ffermwyr i ddarganfod mwy a gwneud y gorau o’r cymorth sydd ar gael.”
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Mentera, sydd wedi ennill y contract i gyflawni’r rhaglen Cyswllt Ffermio drwy dendr cystadleuol:
“Rydym yn falch o’n record o gyflawni’r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru ers 2011 ac rydym yn falch iawn o allu parhau â’r gwaith hwn ar adeg mor dyngedfennol i ffermio Cymru. Ein blaenoriaeth yw parhau i gefnogi diwydiant gwledig Cymru gyda gwasanaethau ymarferol, dibynadwy sy’n helpu busnesau fferm i symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo i fod yn bartner sefydlog, adeiladol i’r sector wrth iddo lywio’r newidiadau sydd o’n blaenau.”

