Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol sy’n amlinellu amryw o gamau cyfansoddiadol y dylid eu cymryd i ddatganoli grymoedd pellach i Gymru.
Cadeiriwyd y comisiwn gan Yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, cafodd eu penodi ynghyd a nifer o arbenigwyr o ar draws wahanol ddisgyblaethau a meysydd polisi i archwilio’r gwahanol bosibiliadau sydd yn bodoli i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Daw’r adroddiad yn dilyn sgwrs genedlaethol a gynhaliwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, lle ymgynghorwyd yn eang er mwyn gweld beth oedd barn pobl Cymru am y setliad datganoli presennol, a lle gellid datblygu hyn yn y dyfodol.
Cynhaliwyd arolygon barn a sioeau teithiol er mwyn casglu tystiolaeth o farn y bobl, ac fe gysylltwyd â miloedd o ddinasyddion Cymru er mwyn cyflawni’r dasg o ddeall beth oedd eu barn ar y setliad datganoli.
Ynghyd a’r prif adroddiad, mae yna nifer o ddogfennau ac adroddiadau eraill wedi eu cynnwys megis adroddiadau unigol gan grwpiau o arbenigwyr yn edrych ar feysydd polisi penodol.
Mae’r cyhoeddiadau yn cynnwys:
- Yr Adroddiad Terfynol
- Casglu barn y cyhoedd ynglŷn ag opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru
- Agweddau’r cyhoedd at ddyfodol cyfansoddiadol y DU
- Adroddiad Darlledu
- Adroddiad Cyflogaeth
- Adroddiad Ynni
- Adroddiad Cyfiawnder
- Adroddiad Trafnidiaeth
- Adroddiad Lles
Mae’r canfyddiadau yn sicr o gymell llawer o drafodaethau ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Cadwch olwg ar Arsyllfa i glywed y diweddaraf ar sut y gall hyn effeithio cefn gwlad Cymru a’r economi wledig.