Cyhoeddwyd fod dinas Wrecsam ar y rhestr fer i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029, ynghyd â Blackpool, Milton Keynes a Sheffield.
Mae’r dinasoedd bellach yn y ras am y teitl a fydd yn cynnig manteision sylweddol i’w cymunedau lleol, megis mwy o fuddsoddiad, mwy o fynediad at weithgareddau diwylliannol, a chreu swyddi.
Bydd pob lle ar y rhestr fer yn derbyn £125,000 i fwrw ymlaen ag elfennau o’u cais, gydag un lle yn y pen draw yn mynd ymlaen i gipio’r teitl a chronfa wobr o £10 miliwn.
Mae’r gystadleuaeth, a gyflwynir gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan mewn cydweithrediad â’r llywodraethau datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, yn dod â diwylliant i galon cymunedau ac yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan ym mhopeth sydd gan y celfyddydau i’w gynnig.
Dywedodd Joanna Knight OBE, Cadeirydd cais Wrecsam2029:
“Am foment anhygoel i Wrecsam! Mae bod ar restr fer Dinas Diwylliant y DU 2029 yn newyddion gwych, ac yn rhywbeth y dylai ein cymuned gyfan fod yn hynod falch ohono.
Mae gennym stori ryfeddol i’w hadrodd, a’r uchelgais, y creadigrwydd a’r angerdd i wneud 2029 yn rhywbeth gwirioneddol ysblennydd. Mae’r gefnogaeth rydym wedi’i dderbyn gan bobl a sefydliadau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi bod yn aruthrol, ac mae yna deimlad gwirioneddol bod rhywbeth arbennig iawn yn digwydd yma.
Dychmygwch beth allai ei olygu i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU gyntaf Cymru – nid yn unig i Wrecsam, ond i ogledd Cymru a Chymru gyfan. Mae’r cyfleoedd yn enfawr, rydym yn benderfynol o wneud y mwyaf ohonynt.
Rwy’n grediniol mai Wrecsam yw’r lle iawn ar yr amser iawn, ac mae bod ar y rhestr fer yn profi bod eraill yn gallu gweld ein potensial hefyd. Nawr, mae angen cefnogaeth pawb arnom, dathlu popeth sy’n gwneud y lle hwn mor arbennig, a’n helpu i sicrhau’r fuddugoliaeth!”
Yn ddiweddar, aeth tîm Wrecsam2029 a’i gefnogwyr â’u neges i’r Senedd yng Nghaerdydd, gan gynnal digwyddiad i wleidyddion, arweinwyr diwylliannol a busnesau yn adeilad y Pierhead, gyferbyn â Senedd Cymru.

