Mewn blog gwadd arbennig sydd yn rhan o gyfres sydd yn edrych yn ôl ar Gronfa Her ARFOR mae Gwyn Derfel, Rheolwr Datblygu’r Gymraeg, Grŵp Undeb Rygbi Cymru yn trafod sut aethpwyd ati i roi cyfle i glybiau Rygbi Cymru gryfhau eu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwriad Undeb Rygbi Cymru trwy gynllun Arfor oedd rhoi’r cyfle i holl glybiau pedair ardal Arfor gryfhau eu darpariaeth a chydweithio gyda’u cymunedau lleol – a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwahoddwyd y clybiau i ddewis a chynnal sesiynau megis ‘Cyflwyniad i TAW’, ‘Sut i wneud y clwb yn fwy croesawgar i ferched a menywod’,‘Cyfryngau Cymdeithasol’, ‘Denu a Chadw Gwirfoddolwyr’,’Gwella Llywodraethiant’, ‘Cynnig croeso i leiafrifoedd ethnig’, ‘Rhagfarn Anymwybodol’, ‘Diogelu Data’ i enwi ond rhai.
Amcan y peilot oedd cynnig y gwasanaeth yma i’n clybiau a’n cymunedau Cymraeg – wyneb yn wyneb (ac yna’n rhithiol fel gwaddol pellach) yn dilyn cyfnod y pandemig, gan greu cysylltiadau cryfach rhwng clybiau rygbi, busnesau lleol a’u perthynas gyda’r Gymraeg – gan arwain at fudd economaidd.
Yn y pendraw cynhaliwyd cyfanswm o 14 o gyrsiau wyneb yn wyneb mewn 7 o glybiau – ac mewn dau sefydliad ychwanegol wedi hynny yng Nghaerfyrddin a’r Gaerwen – gan sicrhau bod digwyddiadau ym mhob un o bedair ardal Arfor.
Wedi hynny paratowyd fideo o un o’r digwyddiadau, tri recordiad rhithiol o’r sesiynau mwyaf perthnasol a thair fideo o brif bynciau’r peilot – gan normaleiddio’r Gymraeg ac addysgu cynulleidfa ehangach yr un pryd.
Llwyddodd rhai elfennau o’r peilot yn gampus – ond fe wynebwyd ambell her a siom yn ogystal.
Roedd hi’n allweddol bwysig i mi ein bod yn cyflogi pobl o fewn ardaloedd Arfor yng nghyd-destun ein digwyddiadau.
Er mai’n ganolog y trefnwyd y cyrsiau, y cyflwynwyr, yr arlwyo a’r hysbysebu – fe gyflogwyd unigolion yn y gwahanol ardaloedd penodol i ymgysylltu gyda sefydliadau a busnesau lleol er mwyn eu gwahodd a’u hannog i fynychu’r digwyddiadau a’u hyrwyddo’n lleol.
Pe byddwn yn cael y cyfle i ail-adrodd y project – buaswn yn cyflogi trefnydd penodol ar gyfer yr holl ddigwyddiadau fyddai’n gallu canolbwyntio’n llwyr ar gynnig a chreu y digwyddiadau mwyaf effeithiol a gwerthfawr.
Rwy’n arbennig o falch ein bod wedi sicrhau gwasanaeth rhai o’r arbenigwyr mwyaf yn eu meysydd i arwain y cyrsiau ac roedd yr adborth i’r mwyafrif llethol o’r cyrsiau’n hynod gadarnhaol.
O safbwynt yr angen a’r gwaddol – yn dilyn y cyflwyniad Llywodraethiant – aeth pwyllgor un clwb i edrych ar eu statws cyfreithiol er mwyn sicrhau nad oedd gwirfoddolwyr y clwb yn gyfrifol am unrhyw golledion posib. Fyddai hynny heb ddigwydd oni bai am fuddsoddiad Arfor.
Yn dilyn y sesiynau Llesiant Meddwl – fe siaradodd unigolyn am hunanladdiad ei ddau frawd yn agored am y tro cyntaf. Dywedodd na fyddai wedi cael yr hyder i wneud hynny oni bai bod y cwrs yn Gymraeg.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cydweithio gydag Osian Leader er mwyn cynnig cefnogaeth ac arbenigedd i deulu rygbi Cymru ers y cyrsiau hyn gan gryfhau’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth ymhellach.
Cynhaliwyd sesiwn agored yn Tafwyl hefyd i rannu manylion am y ddarpariaeth.
Enghraifft arall o waddol yr ymgyrch oedd y ffaith i dros 40 o ferched a menywod fynychu cwrs am y Menopôs yng Nghlwb Rygbi’r Bala – ac mae mwy o’r gymuned leol bellach yn ymwybodol o adnoddau’r clwb – ac yn eu defnyddio.
Fe lwyddodd y sesiynau ‘Defnyddio’r Gymraeg ar y Cyfryngau Cymdeithasol’ i wneud i glybiau ail-feddwl am eu defnydd o’r iaith. Awgrymwyd na ddylid cyfieithu popeth ac y dylai’r Gymraeg fod yn fwy tafodieithol a mentrus wrth geisio apelio at gynulleidfa leol.
Llwyddwyd gwneud y clybiau’n ymwybodol o gynnwys apelgar, cyrhaeddiaeth ac algorithmau allai ddylanwadu’n gadarnhaol ar eu cynnyrch a’u clwb.
Does dim amheuaeth bod mwyafrif llethol y cynnwys gyflwynwyd wedi cael ei werthfawrogi – ond mewn ambell leoliad byddai cael cynulleidfa ehangach wedi bod yn braf.
Efallai i ni geisio bod yn rhy uchelgeisiol wrth drefnu cynifer o nosweithiau ac roedd cael y cyfle i wneud ambell gamgymeriad trwy gyfrwng y cynllun peilot yn werthfawr.
Yn y dyfodol, os bydd cyfle tebyg ar gael – efallai y gwnaf ganolbwyntio ar greu llai o ddigwyddiadau mwy uchelgeisiol – gan glymu elfennau cymdeithasol ac addysgiadol i mewn i’r digwyddiadau fyddai efallai’n denu cynulleidfa ehangach a mwy o gynrychiolaeth o’r gymuned fusnes leol fyddai’n gwireddu mwy o’n hamcanion gwreiddiol.
Byddai Undeb Rygbi Cymru’n croesawu cyfleoedd a chymorth cyffrous fel hyn yn y dyfodol er mwyn parhau gyda’r gwaith hwn.

