Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgelu ‘Tir – Teulu – Treftadaeth’ sef maniffesto’r Undeb ar gyfer Etholiad Senedd 2026. Mae’r ddogfen yn amlinellu blaenoriaethau’r Undeb a chynigion polisi ar gyfer y sector amaeth i bob plaid wleidyddol eu hystyried.
Lansiwyd y maniffesto yn Sioe Brynbuga yn Sir Fynwy ar ddydd Sadwrn 13 Medi. Ymhlith y galwadau mae gofyn i’r Llywodraeth nesaf ddarparu sefydlogrwydd a sicrhau cynaladwyedd a chefnogaeth i ffermydd teuluol yng Nghymru.
Mae galw hefyd i sicrhau cydweithio parhaus fel bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn deg, yn gweithio ac yn ‘realistig ac yn addas i’r sector’. Mae’r cynllun wedi profi’n ddadleuol iawn ymysg ffermwyr, ac wedi bod yn sail i wrthwynebiad a phrotestio eang. Bydd y cynllun yn cychwyn ar 1 Ionawr 2026, ac mae’r Undeb wedi galw am gynnydd i’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer ‘haen gyffredinol’ y rhaglen, sef y taliad sylfaenol bydd yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr sy’n ateb gofynion penodol. Mae gofyn hefyd i sefydlu fframwaith 5 mlynedd i’r cynllun i ffermwyr gael cynllunio a gwneud penderfyniadau busnes yn hyderus.
Ymhlith gofynion eraill y maniffesto mae galwad i feithrin cadwyni cyflenwi byrrach, buddsoddi hirdymor mewn lladd-dai bach a sicrhau cefnogaeth i gynnyrch Cymreig fel modd o gryfhau systemau bwyd Cymru. Mae yna hefyd gynigion er mwyn sicrhau cefnogaeth i ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant gan adeiladu ar argymhellion ‘Mandad i Ffermwyr y Dyfodol’, dogfen a gyhoeddwyd gan yr Undeb yn y Sioe Fawr eleni.
Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:
“Wrth i ni nodi 70 mlynedd o fod yn gefn i ffermydd teuluol Cymru, rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i barhau gyda’r cynnydd diweddar mewn ymgysylltu adeiladol fu’n rhan allweddol o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Ffermydd teuluol yw asgwrn cefn ein heconomi, ein cymunedau a’n diwylliant. Mae’r maniffesto hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau dyfodol cryf a chynaliadwy i’r sector.
Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag ymgeiswyr yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, a gweithio gyda’r Llywodraeth nesaf er lles ffermydd a chymunedau gwledig ledled Cymru.”
Mae modd lawrlwytho’r maniffesto yn ei gyfanrwydd yma: FUW Manifesto 2026 (BILINGUAL)

