Tyfu Canolbarth Cymru yn rhannu eu gwaith yn y Sioe Fawr

July 2026 | Cymunedau a 'lle', Sylw

Daeth Tyfu Canolbarth Cymru â phartneriaid, busnesau a rhanddeiliaid allweddol ynghyd yn Sioe Frenhinol Cymru i dynnu sylw at y gwaith sy’n digwydd ar draws y rhanbarth i gefnogi twf ar gyfer y dyfodol, cryfhau sgiliau a chyflawni buddsoddiad.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn bartneriaeth ranbarthol ac yn drefniant ymgysylltu rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, ynghyd a Llywodraethau Cymru a’r DU. Mae’r bartneriaeth yn ceisio cynrychioli buddiannau a blaenoriaethau’r rhanbarth ar gyfer gwelliannau i’r economi leol.

Canolbwyntiodd y digwyddiadau ar bwysigrwydd troi uchelgais ranbarthol yn ddarpariaeth ymarferol, gyda thrafodaethau’n tynnu sylw at sut y gellir cyd-fynd yn well â buddsoddiad, seilwaith, sgiliau a galw cyflogwyr i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarth.

Rhoddodd yr wythnos gyfle i arddangos ehangder y gweithgaredd sydd eisoes ar y gweill ar draws Canolbarth Cymru – o sgiliau a hyfforddiant, seilwaith digidol ac ynni, i dechnoleg amaethyddol, technoleg bwyd, trafnidiaeth a chyfleoedd buddsoddi ehangach.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This