Trawsnewid Digidol – Ailffurfio’r modd y cynghorau sir yn gwasanaethu cymunedau yng Nghymru

November 2025 | AI ac Awtomeiddio, Cymunedau a 'lle', Sylw

Mae dulliau newydd o ystyried diwygio digidol yn helpu cynghorau ailfeddwl sut y mae gwasanaethau yn cael eu dylunio a’u darparu mewn cymunedau. Mae mewnwelediadau diweddar yn dangos sut y mae dulliau sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf a systemau wedi’u harwain gan ddata yn gallu gwella canlyniadau i drigolion lleol.

Mae awdurdodau lleol megis Castell Nedd Port Talbot a Chaerffili yn gosod dulliau cyfoes a chydweithredol o weithio er mwyn creu gwasanaethau sy’n fwy hygyrch, ymatebol ac effeithlon. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y gall newid systemau gefnogi cymunedau cryfach sydd wedi’u cysylltu’n well ar draws Cymru.

Dangosodd trafodaeth ar gyfres podlediadau ‘Government and Not for Profit’ sawl pwynt allweddol, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae cynghorau yn symud o system sy’n diweddaru rhyngwynebau’r unig i ail-ddylunio’r gwasanaethau sydd ar gael o un pen i’r llall, gan sicrhau fod prosesau mewnol yn cyd-fynd a disgwyliadau’r cyhoedd.
  • Mae buddsoddiad mewn dylunio sy’n pwysleisio profiad y defnyddwyr a dulliau ystwyth o weithio yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gydweithio ar draws adrannau a gwella’r modd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.
  • Mae platfformau digidol, megis myNPT gan Castell Nedd Port Talbot yn dangos sut y gall mynediad mwy eglur a mwy syml allu cryfhau ymddiriedaeth a lleihau rhwystrau i drigolion.

Gallwch ddarllen crynodeb o’r sgwrs yma – Welsh Councils Use Digital Reform to Rethink Service Delivery

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This