Mae trefnwyr Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru wedi cyhoeddi bod tocynnau ar gyfer y digwyddiad bellach ar werth. Mae’r gynhadledd eleni yn cael ei chynnal ar Gampws Pencoed, Coleg Penybont rhwng 18 a 20 Tachwedd. Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu mewn partneriaeth gyda Chynhadledd Bwyd mewn Cymunedau sef cyfarfod blynyddol o Bartneriaethau Bwyd o ar draws Cymru a drefnir gan Synnwyr Bwyd Cymru. Y thema eleni yw Cymunedau, Byd a Ffermio, yn Cydweithio.
Mae amrywiaeth helaeth o sesiynau trafod a chyflwyniadau wedi eu trefnu, gyda thrafodaethau ynghylch effaith technolegau newydd ar ffermio a’r sector bwyd, dod a thyfwyr i mewn i ysgolion a sefydliadau addysg a manteision compostio ar gyfer cynhyrchu bwyd iach. Gallwch weld yr amserlen lawn drwy ddilyn y ddolen hon.
Gallwch brynu tocynnau i’r Gynhadledd drwy ddilyn y ddolen hon.

