Mae diffyg tai fforddiadwy a digartrefedd yn aml yn cael ei ystyried yn broblem drefol ond mae peidio ag ystyried yr effaith y mae polisïau tai yn ei chael ar gymunedau gwledig wedi golygu argyfwng cynyddol mewn ardaloedd gwledig o dai fforddiadwy, wedi cael ei anwybyddu.
Mae data cyfyngedig ar dai gwledig yn ei gwneud hi’n anodd mesur maint y broblem ac mae tlodi gwledig yn aml yn mynd heb ei sylwi, ochr yn ochr â chyfoeth cymharol ardaloedd gwledig, gan arwain mewn rhai amgylchiadau at bobl yn byw mewn hen dai sy’n adfeilio.
Yn ôl ffigurau gan Shelter Cymru yn 2021:
- Mae dros 1 o bob 10 (13%) – bron i hanner miliwn o bobl (409,000) – yn byw mewn cartrefi nad ydynt yn strwythurol gadarn neu sydd â pheryglon megis gwifrau diffygiol neu risgiau tân
- Mae ychydig dros 1 o bob 4 o bobl (26%) – sy’n cyfateb i amcangyfrif o 819,000 o bobl – yn byw mewn cartrefi â phroblemau lleithder, llwydni neu anwedd sylweddol
- Mae 1 o bob 10 o bobl – tua 315,000 o bobl – yn dweud bod ble maent yn byw yn niweidio eu hiechyd meddwl, neu iechyd meddwl eu teulu.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio digartrefedd yn ei strategaeth ‘Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru’ fel pan nad oes gan berson lety neu pan nad yw ei ddeiliadaeth yn ddiogel. Mae digartrefedd gwledig wedi bodoli erioed, ond mae’n llawer mwy cudd nag mewn canolfannau trefol. Gall pobl fod yn cysgu mewn caeau, neu hyd yn oed ar ochrau bryniau a mynyddoedd heb ddod i gysylltiad â llawer o bobl, ac felly’n mynd heb i neb sylwi. Er bod y pandemig wedi galluogi awdurdodau lleol i gael gwell dealltwriaeth o ddigartrefedd yn eu hardaloedd, mae’r niferoedd cyffredinol yn dal yn uchel.