Siapio dyfodol cefn gwlad Cymru: potensial gweithio o bell

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

person sitting front of laptop

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Ganolfan Astudiaethau Trawsffiniol (The Centre for Cross Border Sudies neu CCBS) adroddiad gan ei Gyfarwyddwr, Dr. Anthony Soares. Cafodd ei gomisiynu gan y Rhwydwaith Cymunedau Gwledig (Rural Community Network) sy’n edrych ar amgylchedd gweithio o bell ym maes polisi cyhoeddus Gogledd Iwerddon. Darpara’r adroddiad archwiliad i’r mesurau strategol y gellid eu cymryd er mwyn cynyddu buddiannau a phosibiliadau gweithio o bell, yn enwedig yn enw gwella llesiant cymunedol a buddiannau cymdeithasol yn ardaloedd gwledig Gogledd Iwerddon.

Prif ganfyddiadau a sut y gall hyn helpu cefn gwlad Cymru

  1. Annog gweithio o bell: mae’r adroddiad yn pwysleisio manteision gweithio o bell ar gyfer cymunedau gwledig. Gall hyn fod o fudd penodol i gefn gwlad Cymru achos gall arwain at gyfleoedd gwaith gwell, cynyddu cyfraddau’r rheini sy’n ymwneud a’r farchnad lafur a hefyd gyfrannu at les dinasyddion.
  2. Buddsoddiad mewn isadeiledd digidol: mae band llydan cyflym a chyflenwad sgiliau digidol wedi cael eu hadnabod fel blaenoriaethau allweddol ar gyfer sicrhau gweithio o bell. Gall cefn gwlad Cymru hefyd elwa o fuddsoddiad pellach o’r math hwn, gan y byddai’n helpu i gefnogi gweithio o bell a chynwysoldeb digidol cyffredinol.
  3. Hybiau gweithio o bell: mae’r adroddiad yn adnabod y rôl benodol gall hybiau digidol a gweithio o bell eu chwarae. Gall creu gofodau o’r fath ddarparu gweithfannau penodedig i weithwyr gan helpu i feithrin ymdeimlad cymunedol a chynorthwyo rhannu adnoddau.
  4. Datblygiad rhanbarthol cytbwys: gall gweithredu arferion gweithio o bell gyfrannu at ddatblygu economaidd cytbwys ar draws gwahanol ranbarthau a gall hyn yn ei dro fod yn llesol i ardaloedd yng nghefn gwlad Cymru.
  5. Effaith amgylcheddol: Mae gweithio o bell yn gallu helpu i leihau allyriadau carbon a chyrraedd targedau amgylcheddol eraill, gall fod o fudd penodol i ardaloedd gwledig yng Nghymru.
  6. Cynyddu cyfraddau’r farchnad waith: mae gan gweithio o bell y potensial i gynyddu’r gyfradd o bobl sy’n ymuno a’r gweithlu, gan gynnwys i fenywod a’r rheini sydd ag anableddau. Gall hyn arwain at weithlu sy’n fwy amrywiol a chynhwysol yng nghefn gwlad Cymru.

Wrth ddadansoddi’r adroddiad, mae’n amlwg fod gweithio o bell yn darparu amrywiaeth o fuddiannau strategol yng Ngogledd Iwerddon, yn enwedig i les cymunedau gwledig. Gall yr ymdrechion hyn fod yn gatalydd ar gyfer lleihau effaith amgylcheddol ac arwain at gynnydd yn y gweithlu.

Tra bod yr adroddiad hwn a’i olwg ar Ogledd Iwerddon, gall ei fewnwelediadau fod yr un mor werthfawr wrth edrych arnynt o safbwynt Cymreig. Mae yna baralelau hynod rhwng y ddwy ardal, gan awgrymu y gall mesurau tebyg gael effaith cadarnhaol tebyg yng Nghymru hefyd.

Ffyrdd y gallai canlyniadau’r adroddiad fod yn help i gefn gwlad Cymru:

  1. Ysgogi’r economi wledig: drwy hybu gweithio o bell, gall gefn gwlad Cymru ddenu ystod eang o bobl broffesiynol, gall helpu’r economi leol ac arwain at ddatblygiad mwy cytbwys ar draws gwahanol ardaloedd.
  2. Denu buddsoddiad: gall mwy o bobl yn gweithio o bell wneud cefn gwlad Cymru yn fan mwy deniadol ar gyfer buddsoddiad mewn isadeiledd digidol megis band eang cyflym, y byddai yn ei dro yn gallu helpu twf pellach.
  3. Hyrwyddo cynwysoldeb: mae gweithio o bell yn cynnig cyfleoedd i fwy o bobl gan gynnwys y rheini ag anableddau neu rwystrau eraill sy’n eu hatal rhag ymgymryd â gwaith traddodiadol, i gymryd rhan yn y gweithlu.
  4. Cefnogi datblygiad cynaliadwy: mae gweithio o bell yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon ac yn helpu’r gwaith o gyrraedd targedau amgylcheddol. Mae hyn yn cyd-fynd ac ymrwymiad cryf Cymru i gynaladwyedd ac fe all helpu ei enw da fel cenedl werdd.
  5. Creu canolfannau gweithio o bell: gall sefydlu hybiau gweithio o bell yng nghefn gwlad Cymru helpu i ysgogi ymdeimlad o gymuned, darparu mynediad at adnoddau sy’n cael eu rhannu a rhoi cyfleoedd i unigolion rwydweithio a’i gilydd.
  6. Rhannu arferion gorau: gall annog cydweithio rhwng gwahanol ardaloedd gwledig hefyd arwain at rannu arferion gorau bydd yn helpu cymunedau ar draws Cymru.

I grynhoi, mae gan yr archwiliad trwyadl hwn o bolisïau gweithio o bell a’u heffeithiau posib a pherthnasedd penodol i gefn gwlad Cymru. Mae potensial gweithio o bell i fod yn gatalydd i gynyddu cydbwysedd economaidd rhanbarthol nid yn unig yn arwyddocaol ond hefyd yn gyraeddadwy. Drwy hybu canolfannau gweithio o bell a hyrwyddo gweithdrefnau cynhwysol ymhlith y gweithlu gall cefn gwlad Cymru weld newid trawsnewidiol. Mae’r mewnwelediadau traws ffiniol sydd yn cael eu cyflwyno yma yn ein hatgoffa o’r cyfleoedd mae gweithio o bell yn gallu eu darparu, gan arwain y ffordd at ddyfodol lle mae cymunedau cefn gwlad yn fwy cysylltiedig, bywiog a chydnerth.

Mae modd darllen yr adroddiad cyfan, ‘The policy landscape for remote working and rural development in Northern Ireland: A comparative study’ ar wefan CCBS.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This