Sefydliad Bevan yn edrych i siarad a phobl am eu profiadau mewn llety dros dro

Gorffennaf 2024 | Sylw

grayscale photo of woman standing near building

Mae Sefydliad Bevan wedi datgan eu bod yn edrych i siarad â phobl ynghylch eu profiadau o fyw mewn llety dros dro. Yn ôl y sefydliad mae yna nifer record o bobl ar draws Cymru sy’n byw am gyfnodau estynedig mewn llety dros dro wedi ei ddarparu gan Gynghorau Sir.

Mae Sefydliad Bevan yn gweithio ar y cyd gyda Shelter Cymru er mwyn casglu ynghyd straeon unigolion sydd wedi byw o dan yr amgylchiadau hyn yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. Maent yn eiddgar i ddeall mwy am sut brofiad yw hi i fyw heb gartref parhaol, beth yw goblygiadau ymarferol a chymdeithasol hyn a sut y mae hyn yn effeithio bywyd yn gyffredinol.

Mae’r ymchwil yn rhan o ymgyrch cartrefi newydd ar y cyd sy’n dadlau bod angen cynnydd yng nghyflenwad tai cymdeithasol. Maent yn annog unrhyw un sydd wedi neu yn byw mewn llety dros dro, neu yn nabod neu yn gweithio a rhywun sydd â phrofiad o fyw mewn un, i gysylltu â nhw drwy e-bostio laurenc@sheltercymru.org.uk neu ffonio 07920 752468. Am fwy o fanylion, dilynwch y ddolen hon i wefan Sefydliad Bevan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This