Sefydliad Bevan i gynnal sesiwn ar argyfwng tai Cymru

Medi 2024 | Sylw, Tlodi gwledig

a group of houses sitting on top of a lush green hillside

Ar 19 Medi bydd Sefydliad Bevan yn cynnal digwyddiad lansio ar lein ar gyfer dau adroddiad newydd yn edrych ar y datblygiadau diweddaraf ynghylch digartrefedd yng Nghymru. Yn ôl yr elusen, ar ddiwedd Ebrill 2024 roedd dros 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru.

Mae’r adroddiad cyntaf yn edrych yn benodol ar y bobl hynny sydd wedi byw mewn llety dros dro a’u profiadau o’r system yng Nghymru. Mae’r ail adroddiad yn trafod cartrefi cymdeithasol a pam nad oes mwy wedi ei wneud i gynyddu darpariaeth tai cymdeithasol yn ddiweddar.

Mae modd canfod mwy o wybodaeth am y digwyddiad ynghyd a manylion ynghylch sut i gofrestru drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This