Mae Rhwydwaith PATCCh wedi lansio sianel YouTube i roi sylw i’r effaith y mae newid hinsawdd yn ei gael ar Gymru. Fel rhan o rwydwaith WISERD, sefydlwyd y grŵp er mwyn ateb yr angen ar gyfer rhwydwaith i Gymru gyfan yn dilyn llwyddiant Llefydd Newid Hinsawdd (PloCC) ym Mhrifysgol Bangor.
Nod Rhwydwaith PATCCh yw archwilio safbwyntiau academyddion, ymchwilwyr ac arbenigwyr o fyd diwydiant ynghylch sut mae cysyniadau ynghylch newid hinsawdd yn effeithio ar leoedd gwahanol. Y bwriad yw pontio’r bwlch rhwng y gwyddorau cymdeithasol a meysydd gwyddonol o safbwynt sy’n seiliedig ar leoedd. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys aelodau o ar draws sefydliadau o Gymru a thu hwnt sydd yn arbenigo ar effaith newid hinsawdd ar Gymru, ei daearyddiaeth a’i phobl.
Yn ddiweddar mae’r rhwydwaith wedi lansio sianel YouTube sy’n rhoi cyfle i’r cyhoedd glywed gan arbenigwyr o’r maes yn cyflwyno eu hymchwil ar newid hinsawdd a’i effaith ar Gymru. Mae PloCC hefyd wedi lansio cyfres fideo yn ddiweddar. Mae eu cyfres hwythau yn cynnwys seminar diweddar gan Dr Candice Howarth yn trafod canfyddiadau’r cyhoedd ynghylch tymheredd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae’r cyflwyniad yn seiliedig ar ddwy astudiaeth achos penodol. Mae’r cyntaf yn arolwg o ganfyddiadau’r cyhoedd a gynhaliwyd ym mis Awst 2023 oedd yn archwilio i ba raddau y mae’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o effeithiau gwres eithafol ac os gellid lleihau effeithiau gwres eithafol heb gynyddu allyriadau. Mae’r ail astudiaeth yn edrych ar ymarferoldeb ymgorffori ymaddasiadau i wres eithafol fel rhan o gynllunio ac ymateb i newid hinsawdd. Mae modd gwylio’r cyflwyniad isod a chanfod y cyflwyniadau eraill yn y gyfres drwy ddilyn y ddolen hon.
Gallwch ddysgu mwy ynghylch PATCCh ynghyd a manylion ar sut mae ymaelodi drwy ddilyn y ddolen hon i’w gwefan.