Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi Cabinet newydd i lywodraethu Cymru

May 2026 | Sylw

Mae Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog newydd Cymru, wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd i arwain Llywodraeth Cymru a fydd dan arweiniad Plaid Cymru am y tro cyntaf.

Wrth gyhoeddi’r cabinet newydd, dywedodd y Prif Weinidog:

“Bydd y cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i’r ffordd y mae ein cenedl yn cael ei harwain.

“Yn unedig ac yn llawn talent a phrofiad yn barod i wasanaethu, bydd fy llywodraeth yn credu yng nghelf y posibl, gan weithio fel un tîm bob dydd i wella bywydau pobl Cymru.

“Bydd ein hegwyddorion yn ein harwain wrth inni geisio atebion ymarferol i’r problemau sy’n wynebu cymunedau ledled ein gwlad – a byddwn yn mynd ar drywydd ein cenadaethau gyda’r egni a’r brys y maent yn eu mynnu.

“Mae ein haddewid yn syml – ad-dalu ymddiriedaeth pobl ynom cyn gynted ag y gallwn, gan ddod â’r genedl ynghyd. Mae cyfnod newydd o arweinyddiaeth yn dechrau heddiw.”

Dyma’r Aelodau Cabinet newydd;

Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb – Sioned Williams

Gweinidog Cabinet dros Gyllid – Elin Jones

Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon – Heledd Fychan

Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad – Dafydd Trystan Davies

Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal – Mabon ap Gwynfor

Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni – Adam Price

Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg – Anna Brychan

Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd – Llŷr Gruffydd

Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Siân Gwenllian

Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol – Nerys Evans

Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod – Delyth Jewell

Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth – Mark Hooper

Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol – Cefin Campbell

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This