Bydd rheolau newydd ar gyfer cadw adar yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr o 1 Hydref 2024. Bydd rhaid i bawb sy’n cadw adar gofrestru eu hunain gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Ar hyn o bryd dim ond ceidwaid adar sy’n cadw 50 neu fwy o adar sydd angen cofrestru, ond mae’r rheolau newydd yn meddwl bydd rhaid i bawb sydd yn cadw adar i wneud heblaw am y rheini sy’n cadw adar fel anifeiliaid anwes neu sy’n cadw adar dan do yn barhaus. Bwriad y polisi yw gwella’r gallu i fonitro clefydau megis ffliw adar ac felly hefyd cyflymu unrhyw ymyraethau angenrheidiol i atal lledu’r afiechydon hyn.
Mewn datganiad, dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig:
‘Bydd y gofyniad newydd hwn yn ein galluogi i gyfathrebu â cheidwaid adar yn effeithiol, sy’n hanfodol i’n helpu i reoli achosion o glefydau fel ffliw adar.
Rydym yn annog pob ceidwad yng Nghymru i gofrestru eu hadar cyn y dyddiad cau cyfreithiol ar 1 Hydref.’
Dywedodd Richard Irvine, CVO Cymru:
‘Bydd y gofynion cofrestru newydd o 1 Hydref yn helpu ceidwaid adar i ddiogelu eu heidiau. Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gallu cysylltu â cheidwaid adar os oes achosion o glefyd hysbysadwy yn eu hardal, fel ffliw adar, i’w hysbysu am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal clefydau rhag lledaenu.
Mae’n bwysig cofio bod hylendid a bioddiogelwch craff yn parhau i fod yn hanfodol i ddiogelu heidiau rhag bygythiad afiechydon.
Mae ceidwaid adar wedi gweithio’n galed i ddiogelu eu heidiau rhag peryglon ffliw adar yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am ddiolch iddynt am eu hymdrechion parhaus.’
Dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth ynghylch y polisi newydd a sut i gofrestru.