Mae rhan orllewinol Llwybr Dyffryn Tywi wedi ei agor yn swyddogol i’r cyhoedd, gan alluogi i deithwyr fynd rhwng Abergwili a Nantgaredig ar lwybr di-draffig. Mae’n caniatáu i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn deithio yn ddiogel heb orfod poeni am gerbydau.
Dyma’r cymal cyntaf o’r llwybr i agor, ac mae’n cynrychioli 4 milltir o’r 16.7 milltir bydd yn agor cyn diwedd 2025. Unwaith bydd y llwybr wedi ei gwblhau, bydd yn ymestyn o Abergwili i Ffair-fach gan ddilyn trywydd afon Tywi. Cefnogwyd y datblygiad drwy fuddsoddiad o £16.7 miliwn gan lywodraeth y DU.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod potensial i’r llwybr ddenu ymwelwyr o bob cwr a chynhyrchu oddeutu £4.4 miliwn y flwyddyn i’r economi leol a chyfrannu at greu swyddi mewn busnesau lleol drwy’r cynnydd mewn ymwelwyr yn gwario arian. Maent yn awyddus i gydweithio gyda busnesau hamdden, lletygarwch, digwyddiadau a darparwyr llety i wneud y mwyaf o’r cyfleuster newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
“Rydym yn falch iawn o agor y rhan orllewinol hon o Lwybr Dyffryn Tywi yn swyddogol yn barod ar gyfer gwyliau’r Pasg. Mae’r llwybr di-draffig hwn o’r radd flaenaf yn cynnig cyfle heb ei ail i deuluoedd, ymwelwyr dydd, a thwristiaid brofi harddwch unigryw a syfrdanol Dyffryn Tywi.
“Rwy’n edrych ymlaen at agor y llwybr cyfan, o Abergwili i Ffairfach yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ar ôl ei gwblhau, bydd Llwybr Dyffryn Tywi nid yn unig yn gwella mynediad i’n trefi a’n pentrefi lleol, dymunol ond hefyd yn rhoi hwb sylweddol i dwristiaeth ledled y sir, gan ddod â nifer o fanteision economaidd.”
Am fwy o fanylion ynghylch y llwybr, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

