Mae Llwyddo’n Lleol wedi cyhoeddi enwau’r teuluoedd sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu hymgyrch Ymgartrefu. Mae’r cynllun yn darparu cymorth ariannol ac ymarferol i bobl sydd eisiau dychwelyd i’w cymunedau yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth o hyd at £5,000 i gynorthwyo teuluoedd a chostau cludiant, tai a gofal plant, ac mae nifer o’r rheini oedd yn llwyddiannus wedi dychwelyd yn barod.
Mae’r rhaglen yn rhan o ymgyrch ehangach Llwyddo’n Lleol i hyrwyddo’r syniad o ddychwelyd i gymunedau ARFOR wrth bwysleisio manteision yr ardaloedd hyn fel llefydd da i fyw a gweithio. Gobaith Llwyddo’n Lleol yw y bydd rhannu straeon y sawl sydd wedi bod yn rhan o’r fenter yn ysbrydoli eraill i gymryd y cam o symud adref.
Fel rhan o’r gwaith hyrwyddo hwn, mae Llwyddo’n Lleol wedi rhannu hanes rhai o’r rheini oedd yn llwyddiannus yn eu cais am y grant. Yn eu plith mae Annest a Saman, wnaeth gwrdd yng Ngwlad Thai wedi Annest symud yno yn 2013. Bellach, mae ganddynt fab, ac roeddent yn awyddus i ddychwelyd i Wynedd er mwyn iddo gael ei fagu yng Nghymru ac elwa o gyfoeth y Gymraeg a’i diwylliant.
Mewn datganiad, dywedodd Annest:
“Mae’r gefnogaeth yma wedi gwneud y penderfyniad gymaint yn haws.”
“Rydym yn gyffrous i fod yn dod adref ac mor ddiolchgar i Llwyddo’n Lleol am ei wneud yn bosibl.”
“Mae’n golygu llawer i allu rhoi yn ôl i’r gymuned a’m siapiodd. Rydw i eisiau i Arwyn gael yr un cyfleoedd ag a gefais wrth dyfu i fyny, i siarad Cymraeg bob dydd a bod yn rhan o gymuned gref, gefnogol.”
Mae Lea a Simon wedi treulio’r degawd diwethaf yn byw yn Crewe, yn Lloegr. Roedd Lea wedi bod eisiau dychwelyd i Gymru ers tro. Mae Simon, sydd o Loegr yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg er mwyn magu ei meibion drwy gyfrwng yr iaith. Wedi derbyn cefnogaeth drwy’r rhaglen Ymgartrefu maent yn bwriadu symud i Geredigion.
“Roedden ni bob amser yn gwybod ein bod ni eisiau magu ein teulu yng Nghymru,” meddai Lea.
“Dyma lle mae ein gwreiddiau, a gyda’r gefnogaeth hon, rydyn ni’n gallu gwireddu’r freuddwyd honno.”
“Roedden ni eisiau i’n plant dyfu i fyny wedi’u hamgylchynu gan y Gymraeg, yn union fel y gwnes i. Mae eu gweld yn cael y cyfle hwnnw nawr yn rhywbeth arbennig iawn.”
Wrth drafod y prosiect a phwysigrwydd yr elfen Ymgartrefu, dywedodd Aled Pritchard, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol:
“Rydym yn gwybod bod cymaint o bobl ifanc eisiau dychwelyd, ond mae rhwystrau ymarferol yn eu dal yn ôl. Mae’r elfen Ymgartrefu yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau hynny, gan brofi nad breuddwyd yn unig yw symud cartref ond yn realiti hyfyw â chymorth. Mae gweld y saith teulu hyn yn cymryd y cam i ddychwelyd adref yn anhygoel.”
Ynghyd a Annest a Saman, a Lea a Simon, mae’r teuluoedd canlynol hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i dderbyn cymorth:
- Helen a Guto Llywelyn – Yn symud o Gaerdydd i Geredigion gyda’u merch fach. Mae’r ddau yn gweithio ym myd teledu.
- Catherine Peake a Matt Keeves – Wedi byw yn Derby, yn dychwelyd i Wynedd lle bydd Matt yn gweithio yn Llanberis a Catherine yn parhau fel ymchwilydd ym maes ynni adnewyddadwy.
- Eleri ac Edward Powell – Yn symud o Gastell-nedd Port Talbot i Sir Gâr gyda’u mab a babi newydd sydd ar y ffordd.
- Jeno a Gwyn – Yn dychwelyd i Sir Gâr ar ôl cyfnod yng Nghaerdydd, gyda Gwyn yn dechrau swydd newydd fel athro yn y rhanbarth.
- Dr Glyn a Dr Sophie Morries – Wedi byw yn yr Alban ond wedi dychwelyd i Sir Gâr lle maent yn rhedeg busnes hyfforddi, gwerthuso ac ymgynghori yn y maes ymgysylltu â’r cyhoedd.
Am ragor o wybodaeth ynghylch yr elfen Ymgartrefu, ac i ddysgu mwy am waith ehangach Llwyddo’n Lleol, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.

