Mae bellach modd i grwpiau cymunedol ar draws Cymru wneud cais am grantiau i wella neu ddatblygu cyfleusterau lleol. Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cynnig cymorth ariannol o hyd at £25,000 i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wneud gwelliannau i adeiladau neu brynu offer bydd o ddefnydd i bobl leol. Amcan y rhaglen yn ôl y Llywodraeth yw creu cyfleoedd tecach, atgyfnerthu rhwydweithiau lleol a chefnogi gofodau cymunedol lle gall pobl ddod ynghyd.
Mae’r rhaglen wedi ariannu 500 o brosiectau ers 2015, gyda dros £70 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn adeiladau ac offer ar draws Cymru. Derbyniodd Parc yr Esgob yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin £300,000 i adfer gardd furiog ar y safle. Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu tai gwydr newydd, gan gynnwys un bydd yn gweithredu fel ardal amlbwrpas ar gyfer gweithgareddau cymunedol gan gynnwys sesiynau coginio iach bydd yn defnyddio cynnyrch o’r gerddi.
Mewn datganiad dywedodd Louise Austin, Rheolwr Prosiect Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn:
“Dim er mwyn gwarchod treftadaeth yn unig oedd adfer yr ardd furiog ym Mharc yr Esgob – rydyn ni hefyd wedi cael ein hysbrydoli gan y gorffennol i greu lle newydd cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Gyda chymorth gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n rhoi bywyd newydd i’r lle hanesyddol hwn, er mwyn tyfu bwyd, rhannu sgiliau a chysylltu â natur a’n gilydd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cyllid sy’n helpu i droi rhan o’n gorffennol a oedd wedi cael ei anghofio yn rhan ffyniannus o’n dyfodol.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae Parc yr Esgob yn enghraifft wych o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fydd cymuned yn dod at ei gilydd i ail-ddychmygu lle lleol. Mae’r prosiect yn adlewyrchu balchder, angen ac uchelgais lleol – gan droi lle a oedd wedi cael ei anghofio yn lle croesawgar i bawb.
Dim er mwyn yr adeiladau eu hunain rydyn ni’n buddsoddi – ond er budd y bobl sy’n eu defnyddio. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw cael mannau yn agos at ein cartrefi lle gall pobl gymryd rhan mewn gweithgareddau, derbyn cymorth a theimlo’n rhan o rywbeth. Dyna pam rydyn ni’n cefnogi syniadau fel hyn a arweinir gan y gymuned – creadigol, ymarferol ac wedi’u gwreiddio mewn lle.”
Gallwch ddysgu mwy am brosiect adnewyddu gerddi Parc yr Esgob drwy ddilyn y ddolen hon i fideo ar YouTube.
Mae modd gwneud ceisiadau am grantiau o dan £25,000 ar hyn o bryd, gyda’r gronfa yn cynnig grantiau mwy o hyd at £300,000 yn agor ar ddydd Mercher 1 Hydref 2025. I ddarganfod mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

