Bydd rhaglen gan Cyswllt Ffermio o’r enw ‘Bwyd o’r Tir’ – Tyfu ar Gyfer y Dyfodol yn rhoi cyfle i ffermwyr ifanc dros 16 mlwydd oed i ystyried y posibilrwydd o dyfu ffrwythau a llysiau drwy ymweliadau astudio ar draws Cymru. Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i weld sut y mae rhedeg busnes garddwriaethol llwyddiannus, a’r hyn sydd ei angen i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y mae tyfu ffrwythau a llysiau yn ei gynnig drwy ystyried gwahanol fathau o gnydau a modelau busnes.
Mae’r rhaglen yn cynnwys ymweliadau ag amrywiaeth eang o fusnesau garddwriaeth, gan gynnwys Troed y Rhiw Organics yn Llwyndafydd a lleoliadau eraill sy’n tyfu llysiau ar raddfa fawr, mentrau ffrwythau meddal llwyddiannus, a chynhyrchwyr cnydau arbenigol. Bydd y rheini sy’n cymryd rhan hefyd yn derbyn cyngor busnes ac ariannol gan arbenigwyr yn y diwydiant.
Mewn datganiad dywedodd Jacqi Banks, Arweinydd Agrisgôp ar gyfer Cyswllt Ffermio.
“Rwy’n edrych ymlaen at archwilio cnydau garddwriaeth posibl y gellir eu tyfu’n llwyddiannus yng Nghymru ac i weld pa gyfleoedd busnes a allai fod i ffermwyr ifanc yn y dyfodol.
Byddwch yn trafod modelau busnes garddwriaeth, cyllid a phroffidioldeb ac yn dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd y grŵp yn cyfrannu at greu cystadleuaeth garddwriaeth CFfI ar gyfer 2026 gyda’r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn Sioe Frenhinol Cymru ar 21 Gorffennaf 2025.
Mae cymorth parhaus gan fusnesau lleol Cymru i’r sector hwn yn rhoi cyfle i dyfu! ‘Mae’n wych cael Castell Howell yn cefnogi’r grŵp hwn, maen nhw’n gwneud cymaint o waith diddorol gyda chynhyrchwyr llysiau o Gymru, gan gael llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion er enghraifft. Bydd yn wych dod i ddeall y cyfleoedd y mae hyn yn eu rhoi i ffermwyr ifanc Cymru yn y dyfodol.”
Mae modd cofrestru ar gyfer y rhaglen Bwyd o’r Tir hyd nes 27 Mehefin 2025. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyswllt Ffermio.

