Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bydd gwerth £158m o daliadau yn cael eu rhannu rhwng 15,600 o ffermydd ledled Cymru heddiw wrth i ragdaliadau’r Cynllun Taliad Sylfaenol ar gyfer 2023 ddechrau cael eu dosbarthu. Bydd tua 96% o’r rheini sy’n hawlio o’r cynllun yn derbyn taliad sylfaenol o tua 70% o gyfanswm amcangyfrif y taliad cyfan. Dyma’r tro cyntaf i’r taliadau gael eu gwneud gan Daliadau Gwledig Cymru (Rural Payments Wales neu RPW) wneud y taliadau yn ystod cyfnod talu.
Mae’r cyfnod talu yn agor heddiw ac yn parhau hyd nes 15 Rhagfyr 2023. Bydd modd i bob busnes nad ydynt yn derbyn y rhagdaliad heddiw, ond yn cael eu cais wedi ei ddilysu cyn 15 Rhagfyr 2023 yn derbyn y rhagdaliad. Bydd gweddill y taliadau yn cael eu gwneud wedi 15 Rhagfyr, wedi iddynt gael eu dilysu gyda’r disgwyl i bob taliad gael eu cwblhau erbyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2024.
Dywedodd Lesley Girffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru:
‘Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu rhagdaliadau BPS i filoedd o ffermydd ledled Cymru. Mae’r newidiadau rydym wedi’u gwneud hefyd yn golygu y bydd mwy o fusnesau fferm yn elwa ar ragdaliad yn ystod y cyfnod talu. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod taliadau llawn a thaliadau olaf yn cael eu dyrannu mor gynnar â phosibl o 15 Rhagfyr.’
Mae’r cyhoeddiad wedi ei groesawi gan ffermwyr gan gynnwys NFU Cymru. Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar 11 Hydref 2023 dywedodd Aled Jones, Llywydd yr undeb:
‘Dwi’n croesawi’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffith, fod 70% o ragdaliadau BPS yn cael eu gwneud i fwyafrif helaeth o ffermwyr yng Nghymru yfory. Bydd y cymorth hwn yn hwb mawr i lif ariannol mwy na 15,600 o ffermwyr Cymru, ynghyd a’r diwydiannau cysylltiedig rheini sy’n ddibynnol ar ffermwyr ar gyfer cymaint o’u hincwm.’
‘Hoffwn gydnabod gwaith staff Taliadau Gwledig Cymru am sicrhau fod y gefnogaeth yma yn gallu cael eu cyflwyno yfory ac i bawb sy’n cefnogi busnesau ffermio i gyflawni’r Ffurflen Gais Unigol erbyn y dyddiad terfyn ym mis Mai.’
‘Gyda ffermwyr Cymru wedi gorfod ymdopi a phwysau chwyddiant sylweddol – mae cyfraddau ‘chwyddiant-amaeth’ tua 40% yn uwch yn 2023 o gymharu â 2020 – mae croeso i’r newyddion hwn, yn enwedig pan nad yw prisiau allbynnau wedi cynyddu’r un faint a phrisiau mewnbynnu, gyda’r canlyniad o osod elw cynhyrchwyr dan bwysau.’
Gallwch ddarllen ymateb llawn Aled Jones i’r cyhoeddiad ar wefan NFU Cymru.