Enillodd y blaid, dan arweiniad Dan Thomas AS yng Nghymru, 34 sedd yn etholiadau’r Senedd, yr ail blaid fwyaf ar wrthblaid swyddogol.
Yng nghyfarfod llawn cyntaf y Senedd wedi’r etholiad gynhaliwyd ar 19 Mai, mewn ymateb i ddatganiad cyntaf y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth AS, dyweddodd =Dan Thomas AS:
“Mewn Llywodraeth leiafrifol, bydd angen cefnogaeth arnoch ar draws y Siambr hon os ydych am lywodraethu’n llwyddiannus. Mae cefnogaeth yma i bolisïau ymarferol sy’n gwella gofal iechyd, cryfhau seilwaith, cefnogi ffermio a busnesau Cymru ac adfer safonau mewn addysg. Cyn belled â bod eich Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn, mae cyfle i ymgysylltu yn feirniadol ond adeiladol yn y Siambr hon… Pan fydd eich Llywodraeth yn siomi pobl Cymru neu’n gwastraffu arian trethdalwyr neu’n colli golwg ar y brwydrau bob dydd sy’n wynebu teuluoedd cyffredin, byddwn yn eich dwyn i gyfrif, oherwydd bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros newid gwirioneddol.”
Y penodiadau yn llawn:
– Prif Weinidog yr Wrthblaid – Dan Thomas AS
– Dirprwy arweinydd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg a’r Iaith Gymraeg – Helen Jenner AS
– Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Jason O’Connell AS
– Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Francesca O’Brien AS
– Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd, Atal a Chwaraeon – James Evans AS
– Prif chwip a rheolwr busnes – Llŷr Powell AS
– Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol – Claire Archibald AS
– Gweinidog yr Wrthblaid dros Anableddau, Iechyd Meddwl a Chyn-filwyr –
– Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Lletygarwch – Louise Emery AS
– Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid a Gweinidog yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad – Adrian Mason AS
– Gweinidog yr Wrthblaid dros Degwch, Teuluoedd a Chymunedau – Christiana Emsley AS

