Mae Pwyllgor yr Economi yn y Senedd yn rhybuddio bod Cymru’n wynebu gostyngiad sylweddol mewn cyllid a risgiau i ddiogelwch swyddi, ac efallai na fydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig (y Cyd-bwyllgorau) yn gallu cyflawni elfennau rhanbarthol o’r Gronfa Twf Lleol newydd.
Mae’r Pwyllgor wedi mynegi siom fawr y bydd Cymru’n cael llawer llai drwy’r Gronfa hon na’r hyn a gâi o dan gynlluniau datblygu economaidd blaenorol.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddwys i fodelau amgen ar gyfer gweinyddu’r Gronfa yn rhanbarthol cyn rhoi gwedd derfynol ar gynllun cyflawni’r Gronfa Twf Lleol.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar wefan Senedd Cymru – Welsh Parliament: Pwyllgor yn y Senedd yn herio Llywodraeth Cymru ynghylch y gronfa twf lleol

