Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi lansio ymchwiliad yn edrych ar ffermio yng Nghymru i astudio pa gymorth sydd ei angen o Lywodraeth y DU, a pa gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Ymhlith y materion bydd y pwyllgor yn archwilio yw effaith newidiadau mewn treth etifeddiant ar ffermwyr yng Nghymru.
Bydd sylw yn cael i roi hefyd i ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd, a’r effaith y mae hyn wedi ei gael ar allforion amaethyddol o Gymru, o ystyried fod 80% o’r allforion hyn yn mynd i’r UE yn 2018. Mater arall bydd y pwyllgor yn rhoi sylw iddo bydd sut y gall y ffaith i Lywodraeth y DU waredu clustnodi penodol ar gyfer amaethyddiaeth gael effaith ar y modd y noddir y diwydiant yng Nghymru. Ni fydd rhaid i Lywodraeth Cymru gadw at unrhyw wariant penodol wrth ariannu amaethyddiaeth yng Nghymru, ac fe all hyn arwain at ostyngiad yn y gyllideb amaeth.
Dywedodd Ruth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae ffermio yn gonglfaen i economi a diwylliant Cymru. Ond ar hyn o bryd mae’r sector dan straen oherwydd pwysau cyllid, cynnydd mewn costau ynni, a chyd-berthnasau masnachu newydd i’w llywio. Gyda dros 50,000 o bobl yn gweithio yn sector amaethyddol Cymru, mae angen i ni sicrhau bod ffermwyr yn cael y cymorth a’r cyllid cywir.
“Bydd yr ymchwiliad yn gyfle i ddeall yr heriau sydd o’n blaenau a’r hyn y gall Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi ffermwyr Cymru. Rydyn ni am ddeall sut y gallwn sicrhau hirhoedledd y diwydiant a rhoi ffermio ar sylfaen mwy cadarn ar gyfer y dyfodol.”
I ddysgu mwy am waith y pwyllgor, canfod y prif gwestiynau y byddent yn ymchwilio, ac i weld sut y gallwch gyflwyno tystiolaeth, dilynwch y ddolen hon.

