Mae’r ymddiriedolaeth gymunedol Deryn Du wedi llwyddo i ennill grant i adeiladu tai gan brosiect Perthyn Llywodraeth Cymru. Bydd yr arian yn mynd tuag at ddarparu tai fforddiadwy i hyd at 15 o deuluoedd yng Ngheredigion. Mae’r cynlluniau yn cynnwys ardal chwarae i blant, gardd i fywyd gwyllt ac ardal tyfu bwyd.
Nod y prosiect yw ceisio sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol ac i geisio sicrhau bod modd i bobl fyw drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymunedau. Hyd yma, mae 65 o grantiau wedi eu dosbarthu er mwyn cynorthwyo cymunedau i sefydlu mentrau cydweithredol.
Mewn datganiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Drwy feithrin yr amodau cywir yn ein cymunedau, gallwn helpu mwy o bobl i gofleidio a mwynhau defnyddio’r iaith.
Gall grantiau bach Perthyn wneud gwahaniaeth mawr drwy wireddu syniadau ein cymunedau.”
Gweinyddwyr y prosiect yw Cwmpas, a hwythau sy’n rhedeg y prosiect ar ran Llywodraeth Cymru. Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas:
“Mae’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn rhan bwysig o’n cymunedau. Mae prosiect Perthyn a’r grantiau bach wedi galluogi cymunedau i ddod o hyd i atebion i faterion allweddol fel diffyg tai fforddiadwy a cholli asedau hanfodol, creu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol ac yn darparu lle croesawgar i bawb ymarfer eu sgiliau iaith.”

