Mae Prosiect HELIX, rhaglen a ariannir gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu cymorth technegol i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru, wedi cyfrannu effaith ariannol o £676 miliwn ers ei sefydlu yn 2016 yn ôl adroddiad newydd. Mae’r prosiect wedi bod yn gonglfaen i strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi’r diwydiant bwyd a diod dros y ddegawd ddiwethaf, gan ddarparu cymorth i fusnesau gyda phethau megis sicrhau diogelwch bwyd, hyder manwerthwyr a chwsmeriaid, a mynediad i’r farchnad.
Mae adroddiad blynyddol Prosiect HELIX 2024-25 nid yn unig yn edrych yn ôl ar y flwyddyn hyd nes mis Mawrth 2025 ond hefyd ar y prosiect yn ei gyfanrwydd.
Mae cefnogaeth Prosiect HELIX wedi galluogi Pembrokeshire Gold i ehangu eu portffolio o gynnyrch. Wedi’i ddyfynnu yn yr adroddiad, dywedodd Harry Thomas, Cyd-berchennog, Pembrokeshire Gold:
“Mae gweithio gyda thîm Canolfan Bwyd Cymru wedi bod o gymorth mawr wrth ddatblygu ein hamrywiaeth o gynnyrch. Rhoddodd eu harbenigedd mewn datblygu cynhyrchion newydd y wybodaeth a’r gred inni i droi ein olew had rêp wedi’i wasgu’n oer yn rhywbeth mwy – a rhywbeth rydym yn falch iawn ohono. Mae gwybod eu bod nhw yno bob amser ar ben arall y ffôn yn rhoi’r hyder inni ddatblygu cynhyrchion newydd ac ehangu i fod yn olew cynaliadwy dewisol Cymru.”
Yn Dilyn cefnogaeth gan Prosiect HELIX mae Distyllfa Llanfairpwll wedi gallu gwaredu gwastraff o’r gadwyn gynhyrchu drwy ddarparu y cynnyrch sy’n weddill ar ôl eu proses cynhyrchu i ffermwyr biff lleol, Snowdonia Wagyu.
Dywedodd Robert Laming, perchennog Distyllfa Llanfairpwll:
“Helpodd y Ganolfan Technoleg Bwyd ni i ddatblygu’r cynllun HACCP a gweithdrefnau cysylltiedig eraill ar gyfer y cyd-gynnyrch, a oedd yn caniatáu inni gofrestru fel gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid. Roedd y gofynion ynghylch bwyd anifeiliaid yn newydd i mi felly roedd cael y gefnogaeth a’r wybodaeth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn amhrisiadwy i ni.”
“Fe wnaethon nhw hefyd ddarparu cefnogaeth gyda dadansoddiad maethol y cynnyrch fel y gallai’r f fermwyr sicrhau bod gan eu da byw ddiet cytbwys. Mae’r gwaith hwn wedi ein galluogi i gynhyrchu ein rym heb wastraff, sy’n helpu i leihau llygredd a gwarchod adnoddau wrth arbed arian i’r ffermwr a ni.”
Dywedodd Sioned Pritchard, perchennog a sylfaenydd Snowdonia Wagyu:
“Yn Snowdonia Wagyu, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ansawdd ein cig eidion wrth gefnogi cynaliadwyedd ac arloesedd. Mae’r cyfle i ymgorffori’r cyd-gynnyrch cwrw pot o ddistyllu rym Llanfairpwll ym mhorthiant ein gwartheg wedi newid y gêm i ni. Nid yn unig y mae’r cydweithrediad hwn wedi bod o fudd i’n gwartheg a’n busnes ond mae hefyd yn cefnogi’r gymuned ehangach drwy helpu i leihau gwastraff a hyrwyddo arferion cynaliadwy.”
Ymhlith allbynnau eraill gydol oes y rhaglen a restrir gan yr adroddiad mae’r canlynol:
- 930 o fusnesau wedi’u cefnogi
- 2,079 o unigolion wedi’u cefnogi
- 2,943 o ddiwrnodau hyfforddi
- 558 o fusnesau newydd wedi’u cychwyn
- 2,696 o gynhyrchion bwyd a diod newydd 1,446 o farchnadoedd newydd wedi’u cyrchu
- 897 o swyddi newydd wedi’u creu
- 10,355 o swyddi wedi’u diogelu
- 288 o ardystiadau trydydd parti
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

