Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio tystysgrif ôl-raddedig newydd mewn Polisi a Chynllunio Iaith. Lansiwyd y cwrs newydd gan Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg ar faes yr Eisteddfod ym Moduan wythnos diwethaf.
Dywed y brifysgol fod y cymhwyster hwn yn un arloesol sy’n ymateb yn uniongyrchol i agenda Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Bydd y cwrs yn cynnig cymysgedd o brofiadau academaidd ac ymarferol i helpu gwella dealltwriaeth myfyrwyr o brif gysyniadau’r maes fel y maent yn bodoli yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Gwêl y brifysgol y cymhwyster hwn fel un allweddol ym maes cynllunio iaith sy’n prysur ddatblygu yng Nghymru ac sy’n gofyn ar arbenigedd arbennig er mwyn sicrhau cyrhaeddiad y nod o filiwn o siaradwyr. Maent yn gweld y cymhwyster yn un gwych ar gyfer rheini mewn amryw o feysydd sector cyhoeddus ynghyd a’r trydydd sector ynghyd a’r rheini sydd newydd raddio sy’n ceisio canfod cymhwyster proffesiynol bydd yn rhoi profiad ymarferol iddynt.
Cyn y lansiad, dywedodd Rheolwr y Cynllun Kara Lewis fod y dystysgrif hon:
‘yn cynrychioli ein hymrwymiad ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu addysg o’r radd flaenaf yn y maes hollbwysig hwn. Credwn y bydd y cwrs hwn yn ymbweru unigolion i ragori ym maes polisi a chynllunio iaith gan arwain at ddatblygiadau gyrfaol, tyfiant personol arwyddocaol a chyfraniadau gwerthfawr a strategol i gyrraedd y miliwn o siaradwyr.’
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y dystysgrif a sut mae mynd ati i wneud cais amdani drwy gysylltu a Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy’r cyfeiriad: Rhagoriaith@pcydds.ac.uk.