Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi y bydd eitemau o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn Llambed ar gael i’r cyhoedd ymweld â nhw fel rhan o Ŵyl Drysau Agored Cadw. Bydd y Llyfrgell, sy’n cadw casgliadau arbennig y brifysgol, yn agor ei drysau rhwng 12 a 4yh ar ddydd Sadwrn 28 Medi 2024 lle bydd cyfle gan ymwelwyr i weld detholiad o eitemau mwyaf diddorol y Llyfrgell mewn arddangosfa arbennig. Mae’r archif yn Llambed yn cynnwys casgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol gan gynnwys 35,000 o gyfrolau hanesyddol, 8 llawysgrif canoloesol a 69 o gyfrolau sy’n dyddio o cyn 1500.
Bydd Gŵyl Drysau Agored CADW yn gweld mwy na 200 o safleoedd hanesyddol yn cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr yn ystod mis Medi. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau, teithiau tywys ac arddangosfeydd arbennig wedi eu trefnu, gyda’r nod o annog pobl i ymweld â rhai o safleoedd llai adnabyddus Cymru ynghyd a rhoi’r cyfle i ymweld â mannau nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd.
Mewn datganiad dywedodd Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau yn y Drindod Dewi Sant:
‘Rydym yn gyffrous iawn unwaith eto i rannu rhai o’n trysorau anhygoel gyda’r gymuned ehangach trwy raglen Drysau Agored 2024. Ein gobaith yw annog chwilfrydedd a chyffro – ac annog ymwelwyr i ddychwelyd a dysgu rhagor!’
Dywedodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn y Drindod Dewi Sant:
‘Mae’n hyfryd gallu agor ein Casgliadau Arbennig ac Archifau eto eleni yn rhan o raglen Drysau Agored CADW 2024. Rydym yn ymwybodol iawn o’n rôl allweddol yn nhirlun diwylliannol a threftadaeth Cymru, felly mae’n bwysig tu hwnt i sicrhau bod y casgliadau hyn yn parhau i fod yn hygyrch i gymunedau tu hwnt i’r Brifysgol. Hefyd hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr o dîm y Casgliadau Arbennig ac Archifau am ei gwneud yn bosibl i ni gymryd rhan yn y rhaglen arwyddocaol hon.’
I weld rhestr llawn o holl ddigwyddiadau yr Ŵyl Drysau Agored, dilynwch y ddolen hon i wefan CADW.