Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal gweithdy ar-lein i drafod arfer da ynghylch ieithoedd lleiafrifol yn y gweithle. Y nod yw gwneud hyn drwy edrych yn benodol ar Wlad y Basg i weld beth allwn ni yng Nghymru, a’r rhai sydd yn ymwneud â rhaglen ARFOR yn benodol, ei ddysgu o brofiadau arbenigwyr o ddefnyddio a chefnogi’r Fasgeg mewn gweithleoedd yno. Ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 bydd Dr Elin Royles yn rhoi croeso i arbenigwyr ac academyddion o Wlad y Basg i drafod gwahanol agweddau o arfer da ieithyddol mewn gweithleoedd yno.
Mae’r gweithdy yn rhan o waith y brifysgol gyda Wavehill ar ffrwd Monitro, Gwerthuso a Dysgu rhaglen ARFOR, gyda’r nod o ennyn gwell dealltwriaeth ymysg rhanddeiliaid, academyddion a llunwyr polisi iaith yng Nghymru ynghylch y mathau o gamau y gellid eu cymryd i hwyluso a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y byd gwaith.
Ymhlith y siaradwyr bydd:
- Dr Auxkin Galarraga o Brifysgol Gwlad y Basg yn trafod ‘Y model Cyfrifoldeb Ieithyddol Corfforaethol’
- Pablo Suberbiola o Soziolinguistika Klusterr yn cyflwyno ar ‘Aldahitz a Methodoloeg Eusle’
- Galder Lasuen o Euskalit yn rhoi cyflwyniad ar ‘Arfer da rheolaeth ieithyddol yng Ngwlad y Basg’
- Leire Okaranza, FAGOR yn trafod profiadau FAGOR
Cynhelir y digwyddiad rhwng 12:30 a 14:30 ar Zoom. I wneud cais i fynychu’r digwyddiad ac am unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch neges at ear@aber.ac.uk.