Prifysgol Aberystwyth i elwa o fuddsoddiad gan Jeff Bezos

Mehefin 2024 | Sylw

aerial view of city near body of water during daytime

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod yn rhan o gynllun rhyngwladol bydd yn manteisio ar grant o $30 miliwn gan sylfaenydd Amazon, Jeff Bezos. Mae grant Cronfa Daear Bezos wedi ei roi i brosiect dan arweinyddiaeth Coleg Imperial Llundain i ganfod dulliau i wneud systemau bwyd rhyngwladol yn fwy cynaliadwy. Bydd Canolfan Protein Cynaliadwy Bezos yn ymchwilio i ddulliau cynhyrchu bwyd megis eplesu manwl gywir, cig wedi’i feithrin, biobrosesu ac awtomeiddio, maeth, a deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.

Dywedodd Dr David Bryant o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

‘Mae’n wych bod yn bartner allweddol yn y ganolfan newydd hon. Rydyn ni’n gwybod bod bwydo poblogaeth gynyddol y byd mewn ffordd gynaliadwy yn ganolog i ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae protein yn hanfodol i iechyd pobl; ‘dyw ein celloedd, meinweoedd, ac organau ddim yn gallu gweithredu hebddo fe. Wrth i boblogaeth y byd ehangu, bydd iechyd pobl a’r blaned yn dibynnu fwyfwy ar argaeledd eang proteinau sy’n blasu’n dda ac sy’n cael eu cynhyrchu mewn ffyrdd sy’n lleihau allyriadau ac yn gwarchod natur.

Gan weithio gyda’r diwydiant bwyd-amaeth, gallwn ni ddefnyddio’r buddsoddiad hwn i helpu i lywio a chyflymu’r llwybr tuag at sero net.’

Mae mwy o wybodaeth ynghylch y prosiect ar gael ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This