Podlediad newydd yn edrych ar themau creiddiol rhaglen ARFOR

Tachwedd 2024 | Arfor, Sylw

flatlay photography of wireless headphones

Mae Bwrlwm ARFOR wedi lansio podlediad newydd yn edrych ar ardal ARFOR a’r straeon sydd i’w clywed gan rheini sy’n byw a gweithio yno. Hyd yma mae dau rifyn o’r podlediad wedi eu cyhoeddi, gyda chwe rhifyn pellach i ddilyn.

Mae’r bennod gyntaf yn trafod meithrin siaradwyr Cymraeg o’r crud yng nghwmni Gwenllian Lansdown, Prif Weithredwr Mudiad Ysgolion Meithrin, Anwen Morgan, cyn Prif Weithredwr Cyngor Môn, a Rob Shepherd, Prif Weithredwr cwmni EvoMetric. Cyflwynydd y rhifyn hwn yw Meinir Jones, ymgynghorydd gyda chwmni Lafan, sef contractwyr ffrwd waith ‘Bwrlwm ARFOR’. Ymhlith y pynciau a drafodir yw sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei meithrin a’i defnyddio bob dydd, beth yw gwir fantais addysg Gymraeg, sut i annog defnydd o’r Gymraeg a pha gymorth sydd ar gael i rheini sy’n dysgu Cymraeg.

Mae’r ail bennod yn trafod y Gymraeg yn yr oes ddigidol gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Lafan Geraint Hughes gan edrych effaith technolegau newydd megis deallusrwydd artiffisial ar y byd gwaith a goblygiadau posib hyn ar yr iaith Gymraeg. Mae Geraint Hughes yn trafod hyn a mwy yng nghwmni Aled Jones Cyfarwyddwr Cymen, Rhian Floyd arbenigwr marchnata a chyfryngau cymdeithasol a James Turner, Prif Weithredwr Delineate.

Yn ôl tîm Bwrlwm ARFOR mae’r podlediad ar gyfer ‘pawb sydd â diddordeb yn y balchder ieithyddol ar draws ARFOR’ ac ‘yn tynnu lleisiau amrywiol i ystyried effaith y Gymraeg ar ffyniant busnesau a chymunedau ARFOR’. Gallwch wrando ar y podlediad drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Y Pod.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This