Penodi Aelodau Annibynnol i Fforwm Ystad y Goron Cymru

July 2026 | Sylw

Mae Fforwm Cymru wedi’i sefydlu fel Fforwm ymgynghorol i roi mewnwelediad annibynnol, tystiolaeth a chyngor adeiladol i dîm gweithredol Ystad y Goron.

Yn dilyn proses recriwtio agored, mae chwech aelod annibynnol o’r sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector wedi’u penodi i Fforwm Cymru i gynnig cyngor a safbwyntiau allanol ar strategaethau, prosiectau a materion sy’n dod i’r amlwg sy’n effeithio ar Gymru.

Mae arbenigedd aelodau’r Fforwm yn cwmpasu’r amgylchedd, amaethyddiaeth, polisi cymdeithasol ac economaidd, ac ynni adnewyddadwy.

Mae sefydlu’r Fforwm yn cyd-daro â phenodi Comisiynydd newydd i Fwrdd Ystad y Goron, Michael Plaut, sydd, o dan Ddeddf Ystad y Goron 2025, â chyfrifoldeb penodol am roi cyngor i’r Bwrdd am amodau yng Nghymru.

Aelodau’r Fforwm

  • Dr Anwen Elias
  • Dr Rebecca Heaton
  • Alex Meredith
  • Ffion Mitchell-Langford
  • Jon Parker.
  • Sara Turnbull

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This