Mae Rhaglen ARFOR yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i greu cyfleodd economaidd i bobl ifanc a teuluoedd ifanc yng nghadarnleoedd y Gymraeg drwy ddyfarnu cytundeb newydd fydd yn ehangu prosiect Llwyddo’n Lleol.
Yn wreiddiol yn gynllun yng Ngwynedd a Môn yn ystod gwedd gyntaf ARFOR, mae partneriaeth newydd wedi ei sefydlu rhwng Menter Môn a Menter a Busnes i arwain y gwaith. Y bwriad yw adeiladu ar sylfaeni gwreiddiol y prosiect gan hefyd ehangu i siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin.
Gyda allfudo pobl ifanc a theuluoedd yn nodwedd gyffredin am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, nod Llwyddo’n Lleol yw annog y rhai sydd fwyaf tebyg o adael, neu sydd eisoes wedi ymadael eu cymunedau lleol – bod dyfodol a ffyniant economaidd yn bosib yn ardaloedd gwledig y gorllewin. Bydd £3m yn cael ei fuddsoddi i weithredu prosiect Llwyddo’n Lleol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae’n newyddion gwych bod y gwaith ar ARFOR yn parhau. Drwy weithio gyda’n partneriaid awdurdod lleol, rydym am gefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn feunyddiol – ac i bobl ifanc deimlo eu bod cael dyfodol yn y meysydd hyn. Edrychwn ymlaen at weld rhai syniadau arloesol iawn fel rhan o ail gam y rhaglen.”
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell: “Mae ARFOR yn rhan allweddol o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y gronfa yn helpu i hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ac mae’n rhan o’n hymgyrch i dyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’n gilydd. Mae’r bartneriaeth newydd hon yn enghraifft gyffrous o ARFOR ar waith.”
Mae Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn yn egluro: “Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle i barhau gyda’r gwaith o reoli Llwyddo’n Lleol ac i ymestyn hwnnw i weddill siroedd Rhaglen ARFOR. Mae’n negeseuon gwreiddiol ni am gyfleodd gwaith ac ansawdd bywyd yn siroedd y gorllewin, yr un mor berthnasol os nad yn fwy felly heddiw. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio efo Menter a Busnes ac i arwain pecynnau gwaith o’r newydd i hybu ac annog pobl ifanc a theuluoedd i ystyried dyfodol yn eu milltir sgwâr.”
Llŷr Roberts yw Prif Weithredwr Menter a Busnes, ychwanegodd: “Rydym yn gwybod fod colli pobl ifanc a theuluoedd ifanc yn tanseilio hygrededd cymunedau gwledig ac yn cael effaith ar wasanaethau lleol. Rydyn ni yn falch iawn felly o fod yn cael chwarae rhan wrth geisio taclo’r her hon a chydweithio efo’n partneriaid yn Menter Môn i ddatblygu a threialu syniadau all gyfrannu at ddenu a chadw pobl ifanc yn eu cymunedau. Mae gwaith gwych eisoes wedi ei wneud – dyma gyfle i ni ymestyn a datblygu ar hwnnw yng Ngheredigion a Sir Gar.”
Mae ARFOR 2 yn rhaglen £11 miliwn sy’n cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru drwy gytundeb cyd-weithredol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru r sy’n adeiladu ar waith gwedd cyntaf ARFOR. Mae ARFOR yn gweithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Y nod yw treialu dulliau arloesol o hyrwyddo entrepreneuriaeth a chreu swyddi o safon yn y bedair sir, er mwyn cefnogi parhad a thwf yr iaith Gymraeg. Bydd gwedd dau’r rhaglen yn parhau tan 2025.
I wybod mwy am Rhaglen Llwyddo’n Lleol dowch draws i pabell Cyngor Sir Gâr yn Eisteddfod yr Urdd ar y 2il o Fehefin 2023 am 1.30pm.