Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi eu bod wedi mabwysiadu eu Strategaeth Coed a Choetiroedd cyntaf erioed. Mae’r strategaeth yn dilyn bron i ddwy flynedd o waith gyda phartneriaid, y cyhoedd a pherchnogion a rheolwyr tir lleol er mwyn sicrhau fod tirweddau coediog y Parc yn cael eu gwarchod, eu hadfer a’u hehangu.
Mae’r strategaeth yn un 100 mlynedd ac yn amlinellu’r modd y bydd gweithwyr y Parc yn sicrhau dyfodol coetiroedd drwy dair egwyddor greiddiol sef diogelu’r coed sydd yno’n barod, rheoli coetiroedd yn well a chysylltu coetiroedd a’u hehangu.
Mewn datganiad dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Rydym yn hynod falch o’r strategaeth hon, yn arbennig gan fod cymaint wedi bod yn rhan o’r daith gyda ni o’r dechrau i’r diwedd. Mae cydweithrediad perchnogion a rheolwyr tir wedi bod yn allweddol wrth ei datblygu, a thrwy drafod ac ymgynghori, a chyd-ddatblygu cynllun gweithredu bydd yn strategaeth y gallant ei pherchnogi, ac felly yn un hyfyw a chyraeddadwy.
Yn ogystal â’r buddion i’r amgylchedd, mae coed a choetiroedd yn asedau gwerthfawr sy’n cyfrannu at hyrwyddo iechyd a llesiant trwy ddefnydd hamdden, addysgol a chymunedol. Diolch i’r strategaeth hon, gallwn fod yn hyderus y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i elwa o’r hyn sydd gan goed a choetiroedd i’w cynnig.”
Mae modd gweld copi o Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri 2025-2125 ar wefan Awdurdod y Parc drwy ddilyn y ddolen hon.

