Parc Cenedlaethol Eryri yn galw am safleoedd datblygu posib

February 2026 | Arfor, Cymunedau a 'lle', Sylw

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwneud galwad am safleoedd posib ar gyfer datblygiadau lleol, ynghyd a llefydd posib i’w gwarchod rhag datblygiad fel rhan o’r adolygiad diweddaraf i Gynllun Datblygu Lleol Eryri. Mae’r Parc yn chwilio am safleoedd a all fod yn lleoliadau posib ar gyfer datblygu tai, tai fforddiadwy, creu cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol, mannau manwerthu, llecynnau agored a defnyddiau tir eraill.

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn llywio penderfyniadau ynghylch datblygiadau o fewn ardal Ardal Cynllunio Lleol Eryri. Mae’r cynllun yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ateb gofynion cyfredol lleol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Eryri Newydd yn weithredol o 2026 hyd at 2041.

Mae’n ofyniad statudol ar Awdurdodau Cynllunio Lleol i ddilyn cyfres o gamau wrth baratoi unrhyw gynllun o’r fath, gyda’r galwad am safleoedd posib ymysg o’r camau cyntaf yn y broses hon. Nid yw cynnig safle yn golygu o’r rheidrwydd y bydd y safle hwnnw yn cael ei gynnwys o fewn Cynllun Datblygu Lleol. Bydd proses o asesu safleoedd yn digwydd unwaith y derbynnir yr holl gynigion gyda nifer o ystyriaethau megis polisi cynllunio, dynodiadau amgylcheddol, hyfywedd a seilwaith yn cael eu mesur fel rhan o’r gwaith hwn.

Mewn datganiad dywedodd Elliw Owen, Pennaeth Polisi Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae derbyn safleoedd posib i’w hystyried yn ystod y cyfnod yma o fynd ati i ddiwygio y Cynllun Datblygu Lleol yn allweddol os ydym am gyflwyno cynllun sy’n ateb anghenion cyfredol ein cymunedau. Rydym yn awyddus i dderbyn safleoedd i’w hystyried gan berchnogion tir o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri – ond hefyd gan  aelodau o’r cyhoedd, cynrychiolwyr grwpiau cymunedol a datblygwyr tai.”

Mae’r ffenest ar gyfer cyflwyno safleoedd posib i’w hystyried bellach ar agor, ac yn parhau hyd nes yr 11 Mai 2026. Mae modd canfod gwybodaeth bellach, ynghyd a’r dogfennau angenrheidiol i wneud cynnig drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This