Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi Partneriaeth Gwynedd & Eryri 2035 bydd yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer sut y gellid addasu’r diwydiant twristiaeth yn yr ardal er lles yr amgylchedd a chymunedau lleol. Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y parc fod hwn yn ‘strategaeth newydd arloesol’ sydd yn ‘torri tir newydd wrth i ni fesur effeithiau twristiaeth yng Ngwynedd ac Eryri gan bwysleisio ar ymgysylltu cymunedol a chynaladwyedd fel y prif egwyddorion.’
Nod y cynllun yw sicrhau fod cydweithio yn digwydd rhwng cymunedau lleol, y parc a’r sector dwristiaeth i sicrhau fod trigolion yn elwa o’r economi ymweld tra hefyd yn sicrhau cydbwysedd ecolegol a diwylliannol yr ardaloedd rheini lle mae yna ddwyster uchel o ymwelwyr.
Bydd y bartneriaeth yn cael ei lansio’n ffurfiol ar 25 Medi 2023 ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog rhwng 9:30yb a 12:30yh. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan amryw o arweinwyr y prosiect a gan arbenigwyr nodedig fydd yn rhoi trosolwg o hanfodion y weledigaeth newydd. Gallwch sicrhau lle ac archebu tocyn i’r digwyddiad drwy ymweld â gwefan Parc Cenedlaethol Eryri.