Ar 24 Medi bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnal cynhadledd COPA1, y Gynhadledd Amgylcheddol Ieuenctid cyntaf i’w gynnal ar Yr Wyddfa. Mae’r gynhadledd yn rhan o brosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig sy’n ceisio datrys y broblem o lygredd plastig ar y mynydd.
Bydd 15 o grwpiau ieuenctid yn dod ynghyd yn enw cyflwyno datrysiadau i’r broblem o lygredd plastig, gydag un grŵp buddugol yn derbyn grant o £1,500 wedi ei ariannu gan y Loteri Cenedlaethol i ddatblygu eu syniadau. Mae’r panel o feirniaid yn cynnwys yr AS lleol Liz Saville Roberts, y bardd a’r gantores Casi Wyn a Chyfarwyddwr M-Sparc Pryderi ap Rhisiart.
Dywedodd Alec Young, Swyddog Prosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig:
‘Mae COPA1 yn ffordd gynaliadwy o gynnal cynhadledd, trwy bwysleisio ar y meddylfryd o ail-lenwi, ail-ddefnyddio ac ailgylchu, yn ogystal â blaenoriaethu cynnyrch cynaliadwy a di-blastig gydol y diwrnod. Yn ychwanegol i hyn bydd y rhai fydd yn mynychu’r gynhadledd yn hyrwyddo a gwneud defnydd o wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa, ffordd amgylcheddol i ymwelwyr deithio yn yr ardal.’
Bwriad y gynhadledd yw grymuso llysgenhadon hinsawdd y dyfodol, ac i feithrin ysbryd o arloesi wrth fynd ati i ddatrys problemau amgylcheddol. Gallwch ddysgu mwy am y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.