Fel rhan o brosiect arloesol, bydd Prifysgol Bangor yn mynd i’r afael â chwestiwn sydd wedi creu penbleth i sefydliadau a chwmnïau yng Nghymru ers tro byd: pam bod recriwtio siaradwyr Cymraeg yn profi’n heriol, er gwaetha’r galw am swyddi yn lleol?
Bydd y project yn edrych ar ddau beth yn benodol dros 12 mis. Yn gyntaf, datblygu gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau wrth recriwtio staff dwyieithog, ac yn ail, darganfod beth sy’n gyrru penderfyniadau mudo oedolion ifanc rhwng 18 a 35 oed yn benodol yn ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.
Ariennir y gwaith trwy Gronfa Her Fawr Arfor – cynllun ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
Prif allbynnau’r prosiect fydd creu pecyn ymarferol fydd o ddefnydd i gyflogwyr wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau recriwtio. Yn hynny o beth, bydd y tîm ymchwil, sydd yn cael ei arwain gan Dr Cynog Prys, Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yn cynhyrchu twlcit i’w ddefnyddio gan gyrff cyhoeddus, busnesau sector breifat a mudiadau trydydd sector. Mae’r tîm ymchwil, sydd yn arbenigwyr mewn cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, hefyd yn cynnwys Dr Rhian Hodges ac Elen Bonner, myfyriwr doethuriaethol yn yr un ysgol honno.
Mae’r prosiect yn adeiladau ar waith ymchwil presennol ymchwilydd y prosiect, Elen Bonner, ar yr economi a’r Gymraeg. Gwnaethpwyd y gwaith hwn o dan nawdd Ysgoloriaeth Martin Rhisiart drwy law y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd y tîm ymchwil yn cynnal cyfweliadau gyda cyflogwyr yn ardaloedd Arfor er mwyn casglu seilwaith data am yr heriau sydd yn eu wynebu wrth iddynt geisio recriwtio staff dwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Bydd y tîm hefyd yn adeiladu ar seilwaith gwybodaeth PhD Elen Bonner i geisio deall cymhelliant oedolion ifanc dros aros, gadael neu dychwelyd i’r cymunedau dan sylw.
Meddai Elen, “Er mwyn mynd i’r afael â’r her, mae’n bwysig ein bod ni’n hel data o safon academaidd trwy weithio gyda’r sector gyhoeddus a phreifat, ynghyd â phobl ifanc. Dim ond trwy wneud hyn fedrwn ni greu pecynnau a rhannu canfyddiadau fydd â’r potensial i ddylanwadu ar bolisïau recriwtio a siapio strategaethau recriwtio’r dyfodol, a rhoi’r potensial mwyaf i sefydliadau a chwmnïau lenwi swyddi dwyieithog yn llwyddiannus.
“Wedi i ni gwblhau’r gwaith ymchwil, byddwn yn gweithio gyda dylunydd proffesiynol i greu adnoddau ymarferol fydd yn helpu cyflogwyr i ddeall yr heriau recriwtio a dysgu am ymarfer da yn y broses recriwtio.”
Mae disgwyl i’r prosiect fwydo’r canfyddiadau yn ôl ym mhedair sir Arfor trwy weithdai ym Medi 2024, a bydd digwyddiad i gloi’r prosiect ym Mhrifysgol Bangor yn Tachwedd 2024.
Mae cynllun Prifysgol Bangor am fod yn gyfle gwych i gyd-weithio gyda’r Sector Cyhoeddus, Preifat a Trydydd Sector ar draws Rhanbarth ARFOR i fynd i’r afael a’r her o recriwtio siaradwyr Cymraeg. Bydd y gwaith yma yn gymorth I adnabod yr heriau a’r rhwystrau yn y maes ac yn cynnig ffyrdd I’w goresgyn.
“Mae cynllun Prifysgol Bangor am fod yn gyfle gwych i gyd-weithio gyda’r Sector Cyhoeddus, Preifat a Trydydd Sector ar draws Rhanbarth ARFOR i fynd i’r afael a’r her o recriwtio siaradwyr Cymraeg. Bydd y gwaith yma yn gymorth I adnabod yr heriau a’r rhwystrau yn y maes ac yn cynnig ffyrdd I’w goresgyn.” – Y Cyng. Dyfrig Siencyn,Arweinydd Cyngor Gwynedd, ar ran Bwrdd ARFOR.
Medd Dr Cynog Prys, “Bwriad y prosiect yw creu gwaddol hirdymor fydd yn galluogi oedolion ifanc sy’n medru’r Gymraeg i aros neu ddychwelyd i Gymru drwy eu paru gyda chyfleoedd gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’r gyda’r holl bartneriaid i gynhyrchu gwaith o safon uchel fydd yn cael effaith ar lawr gwlad drwy gyfrannu at ddatblygiad economaidd llwyddiannus yr ardal, a drwy hynny cefnogi cymunedau iaith Gymraeg o fewn y broydd hyn.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ymchwil.