Mae Oxfam Cymru wedi cyhoeddi papur trafod ‘Gweledigaeth am Gymru Gyfiawn’, sy’n cynnwys galwadau polisi i’r pleidiau yng Nghymru eu hystyried cyn etholiadau’r Senedd 2026. Lansiwyd y ddogfen mewn digwyddiad yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd ar y 4ydd o Dachwedd yng nghwmni gwleidyddion, ymgyrchwyr a rhanddeiliaid amrywiol oedd wedi ymgynnull i ffurfio fforwm trawsbleidiol er mwyn archwilio syniadau ynghylch dyfodol Cymru a thrafod cynnwys y papur.
Mae’r papur yn canolbwyntio ar sut i greu dyfodol cyfiawn a chynaliadwy yng Nghymru, ac yn ymgais i weithio ar draws sectorau i sicrhau cydraddoldeb, lles a chyfiawnder hinsawdd fel egwyddorion canolog wrth ystyried penderfyniadau polisi.
Mewn datganiad dywedodd Hade Turkmen, cynghorydd polisi i Oxfam Cymru:
“Mae hwn yn amser ar gyfer dwerder ac uchelgais. Mae gan Gymru’r offer, y fframwaith cyfreithiol, a’r awydd cyhoeddus am newid. Yr hyn sydd ei angen nawr yw gweithredu ar y cyd – ar gyfer pobl, y blaned, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ymhlith y blaenoriaethau a amlinellir yn y ddogfen mae’r camau gweithredu canlynol:
- Strategaeth wrthdlodi genedlaethol gyda thargedau statudol ar gyfer tlodi plant, sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb
- Buddsoddi mewn economi ofalgar, gyda systemau gofal cymdeithasol a gofa lplant wedi’u diwygio a’u hariannu’n briodol
- Trawsnewidiad cyfiawn i economi werdd a gofalgar sy’n rhoi lles pobl a’r blaned wrth ei chalon
- Cymru sy’n gyfrifol ar raddfa fyd-eang, yn gweithio i adeiladu heddwch, gan arwain trwy esiampl, gyda masnach foesegol, caffael teg, a chred mewn undod byd-eang wedi’i seilio ar hawliau dynol
Gallwch ddarllen y papur yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

