Oxfam Cymru yn cyhoeddi adroddiad ffeminyddol sy’n edrych tua’r dyfodol

October 2025 | Cymunedau a 'lle', Natur a hinsawdd, Polisi gwledig, Tlodi gwledig

Mae Oxfam Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd o’r enw ‘Green, Fair, and Caring: A Feminist Roadmap for Wales’ sy’n bwrw golwg ar sut gall Cymru ymateb i annhegwch o wahanol fathau. Mae’r maniffesto yn ymgais i fynd i’r afael ac anghydraddoldebau cymdeithas, gan amlinellu gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwerdd a chyfiawn i Gymru.

Ariannwyd y papur gan Oxfam Cymru ac fe’i hysgrifennwyd gan Dr Alison Parken a’r Athro Sara MacBride-Stewart o Brifysgol Caerdydd. Yn ôl Oxfam Cymru, mae’n gyfraniad at weledigaeth byd eang ar gyfer bargen newydd werdd wedi’i wreiddio yng nghyd-destun Cymru. Mae’n cydnabod fod argyfyngau hinsawdd ac economaidd wedi eu cyd-blethu ac yn deillio o systemau anghyfiawn megis patriarchaeth, neoryddfrydiaeth ac economïau echdynnol sy’n cymryd mantais o bobl ac yn niweidio’n hinsawdd. Mae’n dadlau y dylai unrhyw bontio teg tuag at ddyfodol mwy cyfiawn fod yn un ffeminyddol, gan gydnabod gwerth gofal fel isadeiledd cymdeithasol angenrheidiol ynghyd a’r anghyfiawnderau sydd wrth wraidd y system bresennol.

Mae’r papur yn cynnig nifer o argymhellion ymarferol i lunwyr polisi yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar bedwar maes penodol – gofal cymdeithasol, gwaith, trafnidiaeth ac ynni. Mae modd dysgu mwy am yr adroddiad a darllen yr holl argymhellion ar draws y pedwar maes drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Oxfam Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This