Fel rhan o ddigwyddiadau Eisteddfod AmGen eleni cynhaliodd Arsyllfa gyfres o sesiynau yn ymwneud â’r economi yng Nghymru. Roedd y sesiwn cyntaf ‘O’r gymuned i fyny; Ffordd newydd i drefi Marchnad’ yn gyfle i fwrw golwg ar sut oedd rhai o drefi Cymru wedi eu heffeithio yn sgil Covid-19 a sut roedd y cymunedau wedi ymateb i’r heriau rheini.
Roedd y panel yn cynnwys unigolion o fentrau cymunedol sydd wedi bod yn gweithio’n ddi flino dros y blynyddoedd diwethaf i geisio prif ffrydio ffordd gymunedol o weithio dros yr economi. Gydag Elin Haf Gruffydd Jones yn cadeirio cafwyd cynrychiolaeth eang o gymunedau Cymru gan gynnwys, Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen ym Methesda, Nigel O’Gallaghan o Cletwr yn Nhre-ddol, Clive Davies o Gymdeithas Cynnal a Chefnogi Cefn Gwlad yn Aberteifi a Ceri Cunnigton o Gwmni Bro Ffestiniog.
Yn ystod y drafodaeth cafodd amryw o themâu eu crybwyll gan edrych ar ba fath o ddyfodol sy’n wynebu trefi marchnad ac esiamplau o arferion da sydd wedi gweithio’n llwyddiannus yng nghymunedau’r mentrau. Un o’r prif bwyntiau a godwyd ac sy’n berthnasol iwaith prosiect Arsyllfa yw’r angen i fuddsoddi’n lleol. Amlygwyd gan y panel bod cryfhau gwerth y bunt leol yn medru creu effaith belen eira ar yr ardaloedd yma trwy ddod a mwy o fusnes i’r ardal ynghyd â chynnig mwy o gyfleoedd cynaliadwy i weithio’n lleol.
Dyma Elin Haf Gruffydd Jones, yn crynhoi’r drafodaeth
“Mae mentrau cymunedol llwyddiannus iawn mewn sawl rhan o Gymru. Maen nhw’n hynod o effeithiol fel ffordd o redeg economi achos fod yr arian (cyflogaeth, elw a buddsoddiad) yn aros yn lleol, sydd yn llawer gwell na bod arian a buddsoddiad yn cael ei dynnu allan o gymunedau lleol gan gwmnïau mawr. Dyna yw gwraidd yr economi gylchol. Mae yna heriau sylweddol wrth gwrs: mynediad at fuddsoddiad, at gyfalaf, at is-adeiledd, gan gynnwys isadeiledd digidol. Ond mae yna gymaint o arloesi, gymaint o enghreifftiau da, ac mae yna stori bositif a chyffrous i’w dweud ar sut gall cymunedau trefi marchnad fod yn gynaliadwy, yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn ieithyddol. Yn llefydd da i fyw ac i weithio.”
Os hoffech glywed am waith y mentrau cymunedol ewch draw i’r gwefannau isod:
Cymdeithas Cynnal a Chefnogi Cefn Gwlad