Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cyhoeddi dau adroddiad yn edrych ar arloesi yng nghyd-destun cefn gwlad yr Alban. Darpara’r adroddiadau hyn fewnwelediad diddorol i’r math o waith sy’n cael ei wneud mewn ardaloedd eraill o’r DU er mwyn sicrhau fod arloesi a mentergarwch yn ystyriaeth greiddiol wrth feddwl am ddatblygiad economaidd. Maent yn darparu enghreifftiau i’r rheini yng Nghymru sydd â diddordeb yn yr economi wledig eu hystyried wrth i’r berthynas rhwng y gwledig a’r dinesig ddod yn fwy amlwg yn dilyn datblygiadau arferion gwaith wedi’r pandemig
Mae’r adroddiad cyntaf, o’r enw ‘Ehangu Arloesedd mewn Rhanbarthau Gwledig: Alban (DU)’ (‘Enhancing Innovation in Rural Regions: Scotland (UK)’), yn annog Llywodraeth yr Alban i ystyried llunio strategaeth arloesi sy’n mynd i’r afael a’r gwahanol fathau o arloesi tu hwnt i wyddoniaeth a thechnoleg yn unig. Dadleuir bod angen gwneud hyn yng nghyd-destun canolbwyntio ar ei weithredu drwy gyfrwng eu partneriaid datblygu rhanbarthol ar draws y wlad.
Mae’r ail adroddiad, sef ‘Rhwydweithiau a Chysylltiadau Gwlad a Thref ar gyfer Arloesi Gwledig’ (‘Networks and Rural-Urban Linkages for Rural Innovation’), yn archwilio’r rhan y gall rhwydweithiau a chysylltiadau rhwng y wlad a’r ddinas chwarae i ehangu arloesedd gan osod pwyslais penodol ar nodweddion unigryw ardaloedd gwledig a’r modd y mae hyn yn effeithio ar y mathau o arloesi gellid ei weld yno.
Gallwch ddarllen yr adroddiadau yn eu cyfanrwydd drwy ddilyn y dolenni isod.
Ehangu Arloesedd mewn Rhanbarthau Gwledig: Aban (DU)
Rhwydweithiau a Chysylltiadau Gwlad a Thref ar gyfer Arloesi Gwledig