Mewn blog gwadd arbennig sy’n rhan o gyfres yn edrych yn ôl ar Gronfa Her Arfor, mae Anwen a Gwenan o gwmni Adain yn trafod sut y gwnaeth eu rhan nhw yn y prosiect ddatblygu eu hagwedd tuag at sut y mae busnesau’n defnyddio’r Gymraeg.
Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd bob dydd i nifer ohonom, ond i fusnesau Cymraeg mae’n gallu bod yn heriol i gynnal hynny yn y byd digidol. Da ni’n byw mewn byd digidol lle mae presenoldeb ar-lein yn hanfodol i lwyddiant unrhyw fusnes, ond i fusnesau yng Nghymru, mae’r cwestiwn yn codi: sut allwn ni ddarparu’r un gwasanaeth naturiol Gymraeg i’n cwsmeriaid yn y byd digidol? Roedd prosiect peilot Cronfa Her Arfor gan Adain yn ceisio herio’r bwlch hwnnw rhwng gwasanaeth wyneb yn wyneb a phresenoldeb ar-lein.
Dros flwyddyn yn ôl erbyn hyn, cawsom y cyfle i dreialu prosiect peilot trawsffiniol gyda phedwar busnes o natur amrywiol: Redloxx yn Ynys Môn, Cegin Diod yn Llandeilo, Olew yn Aberystwyth ac Elaines yn Llanrug. O’r cychwyn cyntaf, roedd yn amlwg y byddai gan bob busnes ei heriau a’i amcanion unigol, ac felly aethom ati i fabwysiadu dull hyblyg a llunio pecynnau cefnogaeth wedi’u teilwra’n benodol i anghenion pob un.
I wneud hynny’n effeithiol, buom yn cydweithio efo partneriaid creadigol a phrofiadol, yn cynnwys Llewes, Cyfieithu Acen, Llio Angharad, Cread Cyf a Shoned Owen. Drwy’r cydweithio hwn, cafodd y busnesau gefnogaeth marchnata digidol ymarferol ac amrywiol gan gynnwys collabs ar y cyfryngau cymdeithasol, gwaith ffilmio a golygu, gwefannau dwyieithog newydd sbon, asedau cyfryngau cymdeithasol, sesiynau rhannu syniadau a chynllunio, sesiynau hyfforddi ac uwchsgilio a mwy.
Mae’r adborth ‘da ni wedi ei gael gan y busnesau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dyma ddywedodd Sara o Llesiant Redloxx Wellbeing:
“Heb amheuaeth, ma’r prosiect wedi rhoi’r hyder i mi ychwanegu llawer mwy o gynnwys Cymraeg ar draws fy nghyfrifon cymdeithasol, sydd wedi teimlo’n rymusol ac yn hynod ystyrlon.”
Yn ogystal â chynyddu ei chynnwys Cymraeg ar-lein, cafodd Sara gefnogaeth ymarferol i ddatblygu gwefan ddwyieithog a lansio ei phodlediad Cymraeg, Stedda ‘fo Sara ar Youtube ble mae hi’n sgwrsio ar y soffa gyda gwestai adnabyddus yn trafod llesiant a hynny yn uniaith Gymraeg.
“Mae’r wefan ddwyieithog wedi bod yn wych… a ma’ nhw hefyd wedi chwarae rhan enfawr yn fy helpu i ddechrau fy mhodlediad Cymraeg. Rhywbeth dw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael yr hyder i’w wneud heb eu cefnogaeth a’u hanogaeth.”
I Elaines, sydd wedi’i leoli yn Llanrug, mae’r elfen Gymraeg yn ganolog i hunaniaeth y busnes. Fel y mae Gemma’n egluro:
“Gan ein bod wedi ein lleoli yn y pentref mwyaf Cymraeg yn y byd, mae gallu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg yn hanfodol i lwyddiant ein busnes ac yn hynod o bwysig i ni fel teulu. Byddai gwefan dwyieithog ddim wedi bod yn bosib heb y prosiect yma.”
Ers cwblhau’r prosiect, rydym ni yn Adain wedi parhau i weithio gyda nifer fawr o fusnesau ar draws Cymru, gan gynnig cymorth i gynyddu a gwella cynnwys digidol Cymraeg, yn ogystal â chyfleoedd uwchsgilio drwy gyrsiau a sesiynau hyfforddi amrywiol. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r peilot hwn wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer ehangu’r gwaith ymhellach, a pharhau i gryfhau presenoldeb y Gymraeg ar-lein.
Er mai cefnogi busnesau eraill oedd prif nod y prosiect, mae’n bwysig cydnabod faint rydym ni fel Adain wedi’i ennill drwy’r daith hon hefyd. Drwy gydweithio’n agos â’r busnesau a’r partneriaid, rydym wedi dysgu cymaint am realiti busnesau Cymreig yn y byd digidol, ac wedi meithrin perthnasau cryf — ac mewn sawl achos, cyfeillgarwch gwirioneddol. Mae’r profiadau hyn wedi tanio ein hangerdd ymhellach fyth dros gefnogi busnesau yng Nghymru, ac mae’n fraint wirioneddol cael gweithio gyda chymaint o fusnesau bach anhygoel o ddydd i ddydd.

