Mae nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru wedi cyrraedd 100, sydd yn ôl Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei ymrwymiad i’r model perchnogaeth gan weithwyr a’r manteision y mae’n ei ddarparu i’r economi a chymunedau ledled Cymru.
Mae hon yn garreg filltir sylweddol, gan ei fod yn uwch na’r targed blaenorol o 74 oedd wedi ei osod ar gyfer 2026.
Pam fod hyn yn bwysig:
- Mae perchnogaeth gan weithwyr yn gynyddol yn siapio tirlun economaidd Cymru, wedi ei gefnogi gan raglenni megis Cwmpas a Busnes Cymru, sy’n helpu i gwmnïau symud tuag at ymddiriedolaethau dan berchnogaeth gweithwyr.
- Mae ymchwil sy’n cael ei grybwyll gan Lywodraeth Cymru yn dangos fod cwmnïau dan eiddo gweithwyr yn aml yn fwy cynhyrchiol, gwydn ac wedi’u gwreiddio’n well yn y gymuned o gymharu â strwythurau perchnogaeth arferol.
- Mae croesi trothwy 100 o gwmnïau yn dangos llwyddiant ymdrechion polisi i adeiladu economi decach wedi’i gwreiddio’n rhanbarthol – ac yn awgrymu trywydd i fusnesau eraill i fabwysiadu’r model hwn.
I ddarllen y cyhoeddiad llawn – ewch i wefan Llywodraeth Cymru – Nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn cyrraedd 100 | LLYW.CYMRU
– ac ewch i edrych ar flog Cwmpas i ddysgu mwy am dwf cynyddol perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru – 100 ac yn codi – Cynnydd Perchnogaeth gan Weithwyr yng Nghymru – Cwmpas.

