NFU Cymru’n cyhoeddi Ffarmwr Llaeth y Flwyddyn 2025

November 2025 | Cymunedau a 'lle', O’r pridd i’r plât

Mae NFU Cymru ac NFU Mutual wedi cyhoeddi mae Ffarmwr Llaeth y Flwyddyn 2025 yw Kathy Joules o Castell-Y-Gwcw, Llan-lwy, Hwlffordd. Cyhoeddwyd ei llwyddiant yn Sioe Laeth Cymru yn Nantyci, Sir Gaerfyrddin ar 28 Hydref.

Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn cael ei chynnal ers 12 mlynedd, ac yn fodd o gydnabod y cyfraniad mae ffermwyr llaeth yn eu gwneud yn y diwydiant yng Nghymru. Derbyniodd Kathy wobr o £500 a bwrdd caws wedi’i lunio o lechen.

Mae Kathy yn ffermio 650 o aceri sy’n gartref i tua 160 o wartheg llaeth ac yn cyflenwi cwmni FirstMilk yn Hwlffordd. Mae hi hefyd yn rhedeg menter biff lwyddiannus ac mae’r fferm yn tyfu gwenith, barlys a cheirch er mwyn bwydo’r gwartheg.

Mae Kathy wedi parhau i ddatblygu’r busnes ers marwolaeth drasig ei gwr o glefyd niwronau motor ym mis Mawrth 2018. Ers hynny hi sydd wedi cymryd cyfrifoldeb llawn ar gyfer y fferm ac wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau i godi arian i elusennau sydd yn ymladd yr afiechyd.

Mewn datganiad dywedodd Rhys Williams, Ysgrifennydd NFU Cymru / Grŵp NFU Mutual:

“Mae hi wir yn fraint i fod yn rhan o’r broses o feirniadu’r gystadleuaeth hon. Mae yna bobl arbennig yn gweithio o fewn y diwydiant llaeth yma yng Nghymru ac mae Kathy yn brawf o’r safon uchel o ffermwyr llaeth yr ydym yn lwcus i gael yn cynhyrchu llaeth i ni. Mae ganddi ystod ardderchog o sgiliau, ac roeddem yn gallu dweud ei bod yn angerddol iawn ynghylch mynd a’r busnes yn ei flaen yn nhermau graddfa ac effeithlonrwydd.

Mae Kathy yn cynrychioli’r gorau oll o ffermio llaeth yng Nghymru, ac mae hi’n gweithio’n galed, yn ymroddgar, angerddol am ei diwydiant ac mae hi wedi creu system effeithlon a chynaliadwy.”

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This