Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn lansio ymgyrch newydd sydd a’r nod o hyrwyddo bwyd Cymru gan ofyn am gefnogaeth gan y cyhoedd yn enw sicrhau dyfodol y diwydiannau sy’n greiddiol i’r system gyflenwi bwyd. Mae modd i’r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch drwy arwyddo deiseb ar-lein ar wefan NFU Cymru. Gobaith yr Undeb yw bydd niferoedd sylweddol yn arwyddo’r ddeiseb, er mwyn pwysleisio i gynrychiolwyr gwleidyddol Cymru pwysigrwydd cynnyrch Cymreig i etholwyr ledled y wlad.
Daw’r galwad ar ddechrau Wythnos Ffermio Cymru, sy’n dychwelyd am y trydydd tro eleni, bydd yn gweld wythnos o ddigwyddiadau wedi’u trefnu gan NFU Cymru ar hyd a lled y wlad. Bydd yna gyfres o ddyddiau rhanddeiliaid lleol ar draws Cymru ar Ddydd Mawrth 18 Mehefin, gwersi byw ar-lein i blant ysgol gynradd ar ddydd Mercher 19 Mehefin, a digwyddiad ymgysylltu a’r cyhoedd yng nghanol Caerdydd ar ddydd Gwener 21 Mehefin.
Mewn datganiad, dywedodd Llywydd NFU Cymru Aled Jones:
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ymchwydd o gefnogaeth gan y cyhoedd o blaid bwyd Cymru a ffermwyr Cymru wedi bod yn eithriadol. Pan aethom ati i gofnodi barn ein defnyddwyr y gaeaf diwethaf, gwelwyd bod 82% o’r cyhoedd yng Nghymru yn gefnogol i’r syniad y dylai’r llywodraeth roi arian i ffermwyr ar gyfer cynhyrchu bwyd. Rydw i’n gwybod hefyd bod staff ac aelodau NFU Cymru wedi cael eu syfrdanu gan ymateb cadarnhaol y bobl a aeth heibio i arddangosfa’r undeb ym mis Mawrth, sef 5,500 o welingtons ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd. Mae hyn oll yn dangos bod bwyd o Gymru yn bwysig dros ben i bobl Cymru, a bod trigolion ein gwlad eisiau i ffermwyr gael cymorth fel y gallant barhau i gynhyrchu’r bwyd hwnnw.
“Nod ein hymgyrch Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru/Secure the Future of Welsh Food” yw dwyn y diwydiant ynghyd a dangos cymaint o gefnogaeth sydd yna dros y bwyd a gynhyrchir yng Nghymru gan ffermwyr y wlad.”
Dywedodd Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru:
“Mae dyfodol polisïau ffermio a’r cyllid sy’n gysylltiedig â’r polisïau hynny wedi bod yn destun cryn drafod yng Nghymru ers misoedd lawer. Mae’n gwbl amlwg bod y diwydiant – yn ogystal â’r cyhoedd – yn rhannu pryderon ynglŷn ag effaith y polisïau hynny ar allu ffermwyr i gynhyrchu bwyd. Fel ffermwyr, mae hi o fudd i bob un ohonom sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed pan ddaw hi’n fater o Ddiogelu Dyfodol Bwyd Cymru.
“Ar adeg pan mae cynhyrchu bwyd ledled y byd dan bwysau oherwydd effeithiau newid hinsawdd a gwrthdaro byd-eang, allwn ni ddim fforddio llesteirio’r arfer o gynhyrchu bwyd diogel, o ansawdd uchel, a gaiff ei wneud mewn hinsawdd sy’n gweddu’n berffaith i gynhyrchu llaeth, cig, wyau, tatws, cnydau a llysiau. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, mae angen i gynifer o bobl â phosibl lofnodi’r ddeiseb ar wefan NFU Cymru, naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, er mwyn ysgogi’r gefnogaeth hon dros fwyd Cymru. Yn y pen draw, rydym eisiau i lunwyr polisïau weld bod y cyhoedd yng Nghymru eisiau cymorth yn y dyfodol gogyfer cynhyrchu bwyd diogel, cynaliadwy ac o’r radd flaenaf yng Nghymru.”
Am fwy o wybodaeth ynghylch digwyddiadau Wythnos Ffermio Cymru ac i ddysgu mwy am y ddeiseb, dilynwch y ddolen hon i wefan NFU Cymru.