Mae NFU Cymru wedi lansio’r 12fed gystadleuaeth yng nghyfres gwobr Ffarmwr Llaeth y Flwyddyn (Dairy Stockperson of the Year). Nod y wobr yw gwobrwyo a dathlu’r rheini sydd yn ymroddedig i’r diwydiant godro yng Nghymru. Bydd yr enillydd yn derbyn £500 a llechen gaws wedi ei naddu.
Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, Jonathan Wilkinson, un o feirniaid y gystadleuaeth:
“Fel ffarmwr llaeth, dwi’n hynod angerddol ynghylch y diwydiant amaethyddol ac mae siarad o blaid yr unigolion rheini sy’n mynd cam ymhellach i sicrhau fod ganddynt wartheg hapus ac iach yn bwysig.
Nod y wobr yw cydnabod y rôl allweddol mae ffermwyr llaeth da yn eu chwarae mewn menter laeth llwyddiannus a’r diwydiant llaeth Cymreig yn gyffredinol. Bydd enillwyr posib yn cael eu beirniadu ar sail eu gofal a’u rheolaeth o’r fuches, y rhaglen fridio, eu sgiliau wrth drin anifeiliaid, y rhan maent yn chwarae yn y fenter laeth a’u gwybodaeth am y diwydiant llaeth yng Nghymru.
Byddwn yn erfyn arnoch i gyd i enwebu ffarmwr neu reolwr llaeth yn eich ardal chi yr ydych chi’n credu dylai gael eu cydnabod am eu gwaith o fewn y diwydiant.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 26 Medi 2025. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Sioe Laeth, ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth 28 Hydref 2025. Am fwy o wybodaeth ynghylch y wobr, dilynwch y ddolen hon i wefan NFU Cymru, e-bostiwch sarah.phillips@nfu.org.uk neu ffoniwch swyddfa NFU Cymru ar 01982 554200.

