Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi manylion eu cynhadledd flynyddol, bydd yn canolbwyntio ar ‘Sicrhau Dyfodol Bwyd Cymreig’ a sut i sicrhau systemau cyflenwi bwyd sydd yn fwy cynaliadwy. Bydd ystod eang o arweinwyr o’r diwydiant amaeth yn siarad yn y digwyddiad i rannu’r datblygiadau gwleidyddol, masnachol a chyflenwi diweddaraf gyda’r rheini bydd yn mynychu.
Cynhelir y gynhadledd eleni yng ngwesty Metropole yn Llandrindod ar ddydd Iau 7 Dachwedd. Yn agor y diwrnod bydd Llywydd NFU Cymru Aled Jones, wedi ei ddilyn gan Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig bydd yn rhoi araith ac yn ateb cwestiynau o’r gynulleidfa.
Bydd ail sesiwn y diwrnod yn canolbwyntio’n benodol ar sicrhau systemau bwyd cynaliadwy a gwydn yng nghwmni’r Athro Tim Lang, Athro Emeritws Polisi Bwyd yng Nghanolfan Polisi Bwyd City University yn Llundain. Yn dilyn hyn bydd yna sesiwn yn edrych ar y cyfleoedd posib sydd ar gael i gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru yng Nghwmni Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Food Sense Wales, Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Shelagh Hancock, Prif Weithrwdwr First Milk.
Wedi cinio bydd Dr Mathew Wall o Brifysgol Abertawe yn arwain sesiwn yn edrych ar dirlun gwleidyddol Cymru. Bydd y sesiwn olaf yn rhoi croeso i John Murray, Cyfarwyddwr Cig, Bwyd a Diodydd Bord Bia – y Bwrdd Bwyd Gwyddelig, i drafod profiad Iwerddon o sicrhau a datblygu marchnadoedd.
Mae modd i aelodau sydd am fynychu’r gynhadledd gofrestru drwy ffonio 01982 554200 neu drwy e-bostio nfu.cymru@nfu.org.uk. Mae hefyd modd cofrestru drwy ymweld â gwefan NFU Cymru.