NFU Cymru yn cyhoeddi eu pumed Cynhadledd Ffermio Cynaliadwy

August 2025 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi bydd eu pumed Cynhadledd Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 3ydd o Fedi ar Fferm Ffrith yn yr Wyddgrug.

Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr o’r diwydiant amaeth a thaith gerdded o amgylch y fferm 250 o aceri. Bydd mynychwyr hefyd yn cael cyfle ymweld â siop y fferm, a sefydlwyd yn 2003 er mwyn gwerthu’r cig eidion, porc a’r wyau maes a gynhyrchir ar y fferm.

Mewn datganiad dywedodd Llywydd NFU Cymru Aled Jones:

“Ar yr adeg hon o newid digynsail i ffermio yng Nghymru gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn lansio yn 2026, mae’r digwyddiad hwn am arddangos y cyfraniad hanfodol ffermio i’r les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.”

“Gall y rheini sy’n mynychu ddisgwyl clywed am y datblygiadau diweddaraf mewn ffermio cynaliadwy ac ymchwil gwledig, gyda rhaglen lawn o arbenigwyr blaengar ac ymarferwyr yn y maes hwn. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i weld ffermio cynaliadwy ar waith o’r fferm i’r fforc yn y busnes hwn sydd wedi ennill sawl gwobr. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r teulu Swan am roi croeso i’r gynhadledd eleni.”

Mae’r siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys:

  • Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS
  • Dr Alastair Leake, Cyfarwyddwr Polisi GWCT Cymru
  • Yr Athro Janet Dwyer, Athro Polisi Gwledig yn y Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned ym Mhrifysgol Caerloyw
  • Steve McLean, Pennaeth Amaeth M&S Food
  • Dr Julie Finch, Rheolwr Llywodraethiant a Chydymffurfio Amaethyddol i’r Kepak Group
  • Ben Williams, Rheolwr Cynaliadwyedd ar gyfer Leprino

Bydd Samuel Kurtz, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer yr Economi, Ynni a Materion Gwledig yn cyflwyno polisïau’r Ceidwadwyr ar gyfer ffermio cynaliadwy. Bydd hefyd panel o ffermwyr yn trafod eu gwaith a’u safbwyntiau, gyda Ed Swan, Jessica Williams, Mathew Roberts a David Williams yn ymuno yn y sgwrs.

Mae’r gynhadledd am ddim i aelodau a rhanddeiliaid NFU Cymru a bydd cinio yn cael ei ddarparu. Gallwch gofrestru drwy ymweld â gwefan NFU Cymru neu drwy alw swyddfa NFU Cymru ar 01982554200.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This