NFU Cymru a Wynnstay yn lansio Gwobr Amaethu Cynaliadwy

June 2025 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi lansiad eu Gwobr Amaethu Cynaliadwy ar y cyd a Wynnstay, noddwyr y gystadleuaeth. Dyma yw’r bumed flwyddyn bydd y wobr yn cael ei roi, gyda’r nod o ddathlu a chydnabod yr hyn y mae amaethwyr yng Nghymru yn eu gwneud er mwyn sicrhau llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yma. Bydd y wobr yn cael ei roi i fferm neu ffarmwr gall brofi:

  • Eu bod yn ymroddedig i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel sy’n cyrraedd safonau rhyngwladol.
  • Eu bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i amgylchedd eu fferm.
  • Eu bod yn cyfrannu ac yn cymryd rhan yn yr economi wledig, eu cymuned ac yn cyfrannu i ddiwylliant Cymru.

Mewn datganiad dywedodd Hedd Pugh, Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru:

“Mae ffermwyr Cymru yn gwneud cyfraniad heb ei ail i lesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Ynghyd a chynhyrchu bwyd o ansawdd uchel at safon sy’n arwain y byd, mae ffermwyr yn rheoli dros 80% o dir Cymru gan chwarae rôl allweddol wrth warchod, cynnal a gwella’r amgylchedd sy’n cael ei ffarmio.

Mae ffermwyr Cymru yn beiriannau allweddol i’n heconomi wledig ac maent wrth wraidd ein cymunedau gwledig, yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Mae Gwobr Amaethu Amgylcheddol NFU Cymru / Wynnstay yn gam i gydnabod y cyfraniad economaidd amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ffermio yng Nghymru ac fe wobrwyir y ffermiwr a ddyfarnir i fod wedi dangos yr enghraifft orau oll o fusnes ffermio cynaliadwy yng Nghymru.”  

Bydd enillydd y wobr yn ennill £500. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw’r 1af o Fedi 2025. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y wobr drwy ddilyn y ddolen hon i wefan NFU Cymru.

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This