Mae Adroddiad Blynyddol diweddaraf Prif Swyddog Meddygol Cymru yn darparu golwg eang ar iechyd y genedl a’r hyn sydd angen ei newid i’w wella.
Mae’r adroddiad yn cadarnhau fod disgwyliad oes iach ar stop a bod anghyfiawnderau yn parhau i fod yn eithafol, gyda’r enillion mwyaf yn dibynnu ar newid y system tuag at atal arferion drwg a mynd i’r afael a’r amgylchiadau ehangach sy’n siapio iechyd.
Mae’r adroddiad yn galw am fuddsoddiad parhaus yn iechyd blynyddoedd cynnar, mesurau iechyd cyhoeddus cryfach a gweithlu sgilgar sydd a’r gallu i weithio yn wahanol.
Darllenwch yr Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2024-2025 llawn ar wefan Llywodraeth Cymru: Atal afiechyd yn flaenoriaeth frys yn ôl prif feddyg Cymru | LLYW.CYMRU

